Leighton Andrews
Mae Gweinidog Ysgolion San Steffan wedi anfon llythyr o ymddiheuriad at Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, ar ôl iddyn nhw anfon llythyr uniaith Saesneg at athrawon Cymru cyn y streic fis diwethaf.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan wrth Golwg 360 fod Gweinidog Ysgolion Prydain, Nick Gibb, bellach wedi anfon llythyr at Leighton Andrews yn ymddiheuro na anfonwyd llythyr Cymraeg  hefyd.

Cafwyd nifer o gwynion gan athrawon ar draws Cymru pan anfonwyd y llythyr atyn nhw, ddyddiau’n unig cyn streic y sector cyhoeddus ddiwedd mis diwethaf, gyda chyfarwyddiadau ar sut i gyfri cyfanswm eu pensiynau, yn sgil toriadau’r Llywodraeth, drostyn nhw eu hunain.

Cadarnhaodd y llefarydd wrth Golwg 360 eu bod nhw wedi anfon y llythyr yn uniaith Saesneg at athrawon Cymru a Lloegr, ond fod copi o’r llythyr bellach ar gael yn Gymraeg – ar y we.

Pechu gweinidogion Cymru

Mae Gweinidog Addysg Cymru yn dweud nad oedd e’n gwybod dim ar y pryd fod Adran Addysg San Steffan yn bwriadu anfon miloedd o lythyron at athrawon Cymru.

Ond dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg wrth Golwg 360 heddiw eu bod nhw wedi rhoi gwybod i’w swyddogion cyfatebol yn y Cynulliad am y bwriad i lythyru’r athrawon.

“Dywedodd y swyddogion wrthon ni fod hynny’n iawn – heb sôn dim byd am y Gymraeg,” meddai llefarydd San Steffan. “Ond mae’n amlwg na chafodd y gweinidogion i gyd wybod.

“Os ydyn ni wedi ypsetio unrhyw un, rydyn ni’n ymddiheuro am hynny,” meddai’r llefarydd ar ran Nick Gibb.

Ond gwrthod yr esboniad yn llwyr y mae Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran  Llywodraeth  Cymru wrth Golwg 360 fod “dyletswydd ar San Steffan i hysbysu Leighton Andrews, a gwnaethon nhw ddim.

“Petai nhw wedi sôn wrth Leighton Andrews, fydde fe’n sicr wedi tynnu sylw at yr angen i wneud y llythyr yn ddwyieithog.

“Ond y gwir yw doedd ganddyn nhw ddim y cwrteisi i dynnu sylw’r Gweinidog at y bwriad o lythyru’r athrawon.”