Parciwyd y cerbyd ger y ganolfan ymwelwyr
Mae ynadon wedi cyflwyno gwarant i arestio dyn sydd wedi ei gyhuddo o yrru’n beryglus ar Yr Wyddfa.

Roedd Craig Williams, sy’n 39 oed ac yn dod o Cheltenham, i fod i ymddangos gerbron ynadon yng Nghaernarfon ddoe, ond ni wnaeth droi fyny.

Dywedodd ei gyfreithiwr, Carla Forfar, nad oedd yn gallu fforddio teithio’r 160 milltir o’i gartref i Gaernarfon.

Mae Craig Williams yn wynebu dau gyhuddiad o yrru’n beryglus ar gopa’r Wyddfa ar ddau achlysur ym mis Medi eleni. Cafodd cerbyd 4X4 Vauxhall Frontera ei adael ar y mynydd dwywaith, y tro cyntaf rhyw 364 medr o’r copa, a’r eildro, wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr ar y copa.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau, ac fe fydd yn sefyll ei brawf yn Llys y Goron.