Mae CBAC wedi cadarnhau eu bod wedi gwahardd dau arholwr o’u gwaith wrth i ymchwiliadau barhau i  honiadau fod yr arholwyr wedi torri rheolau drwy ddatgelu gwybodaeth am yr arholiadau.

Eisoes, fe ddaeth i’r amlwg bod bwrdd arholi Cymru, CBAC, ynghanol honiadau tros roi cymorth annheg i athrawon. Y cwmni elusennol o Gaerdydd yw un o’r llond llaw o gyrff sy’n cael eu cyhuddo mewn stori gan bapur y Daily Telegraph. Ond mae yntau wedi gwadu’r honiadau.

Eisoes, mae’r Gweinidog tros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi galw “am atebion ar unwaith gan CBAC.”

Honiadau

Mae’r papur yn dyfynnu dau o arholwyr CBAC – Cyd-bwyllgor Addysg Cymru gynt – yn siarad mewn seminar i athrawon yn ne-ddwyrain Lloegr ac yn datgelu beth fydd meysydd rhai o’r cwestiynau mewn arholiad.

Roedd hynny, meddai’r Daily Telegraph, yn cynnwys egluro bod y prif gwestiwn mewn un papur yn dilyn patrwm o flwyddyn i flwyddyn a datgelu tro pa faes oedd hi eleni.

Eisoes, mae CBAC wedi dweud y byddent yn cynnal ymchwiliad brys i honiad bod arholwyr wedi rhoi help annheg i athrawon. Fe fydd hynny’n cynnwys galw un o’r arholwyr i mewn i gael ei holi’r bore yma.

Gwyliwch glip fideo gan The Telegraph sy’n cynnwys arholwr yn sôn am ’dwyllo’.