Fe fydd CBAC yn cynnal ymchwiliad brys i honiad bod arholwyr wedi rhoi help annheg i athrawon.
Fe fydd hynny’n cynnwys galw un o’r arholwyr i mewn i gael ei holi y bore yma.
Ac, yn ôl Cyfarwyddwr Arholiadau ac Asesu’r corff addysg sy’n eiddo i gynghorau lleol Cymru, fe allen nhw newid rhai o’r arholiadau ar gyfer yr haf.
Roedd Cyfarwyddwr Arholiadau ac Asesu CBAC, Derec Stockley, yn ymateb i honiadau ym mhapur y Daily Telegraph bod yr arholwr hanes, Paul Evans, wedi cyfadde’i fod yn “twyllo” wrth roi cyngor i athrawon.
Roedd y papur wedi ei ffilmio’n dweud wrth seminar beth fyddai maes y prif gwestiwn yn yr arholiad eleni ac yn brolio y byddai’r rheoleiddiwr yn debyg o ddweud y drefn am hynny.
Ar Radio Wales, fe ddywedodd Derec Stockley, y bydden nhw’n ystyried atal yr arholwr o’i waith ac y bydden nhw’n ei gyfweld ar frys y bore yma.
Fe ddywedodd bod y dyfyniad ar ffilm yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y dylai’r arholwr fod wedi’i ddweud ond roedd yn sicr mai achos unigol oedd hwn.
Roedd CBAC wedi ystyried honiadau eraill gan y papur a chasglu nad oedd sail iddyn nhw.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y corff fod “rheolaeth CBAC o arholiadau yn drwyadl ac yn cael ei wneud yn unol â chanllawiau rheoleiddio llym.”
“Mae ysgolion a cholegau yn dewis cymryd arholiadau gyda CBAC oherwydd ansawdd ein manylebau, hygyrchedd ein swyddogion pwnc a gwasanaethau cefnogi cysylltiedig, nid oherwydd eu bod yn cael canlyniadau gwell ar gyfer eu myfyrwyr.
“Mae cyrff dyfarnu yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau cysondeb mewn safonau, ac mae’r rheoleiddwyr yn monitro hyn yn agos iawn,” meddai’r llefarydd.
Dywedodd hefyd bod sesiynau datblygiad proffesiynol CBAC yn “rhoi adborth ar arholiadau blaenorol a chyngor i athrawon ar arfer gorau, gyda’r nod o godi safonau addysgu a galluogi pob myfyriwr i gyflawni eu llawn potensial.”
“Mae’r wybodaeth a roddir ar gyrsiau CBAC, gan gynnwys adroddiadau arholwyr ar yr arholiadau blaenorol, ar gael am ddim ar ein gwefan i bob athro ac athrawes, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn gallu mynychu cyrsiau.
“Rydym yn anelu at gadw ffioedd y cyrsiau mor isel ag sy’n ymarferol, gan y byddai unrhyw golledion yn cael effaith ar ein ffioedd cofrestru, ac rydym hefyd yn ceisio cadw’r rhain mor isel ag sy’n ymarferol.”
Fe ddywedodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr y Penaethiaid NAHT fod unrhyw awgrym o ddiffyg cywirdeb mewn system yn galw am ymchwiliad.
“Mae NAHT Cymru yn hyderus y bydd Llywodraeth Cymru a’r bwrdd arholi yn ymchwilio’r honiadau yn fanwl,” meddai.
Gwyliwch glip fideo gan The Telegraph sy’n cynnwys arholwr yn sôn am ’dwyllo’.