Mae undebau athrawon Cymru wedi uno i wrthwynebu cynllun bandio ysgolion heddiw, wrth i’r Llywodraeth baratoi at gyhoeddi eu beirniadaeth bandio cyntaf ar ysgolion uwchradd Cymru.

Mae undeb prifathrawon  NAHT Cymru, ac undeb athrawon NUT Cymru, wedi beirniadu’r cynllun yn chwyrn heddiw, gan ddweud y gallai disgyblion gael eu heffeithio gan system sy’n creu hierarchaeth o fewn ysgolion Cymru.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu system bandio  yn swyddogol heddiw, a fydd yn datgelu i ba fand mae ysgolion uwchradd ar draws Cymru wedi eu gosod ar y raddfa newydd, sy’n ymestyn o 1 i 5.

Mae’r raddfa ar gyfer ysgolion cynradd Cymru yn dal heb ei chwblhau.

‘Ateb rhy syml i sefyllfa gymhleth’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad disgwyliedig heddiw, mae Cyfarwyddwr NAHT Cymru, Anna Brychan, wedi dweud fod yr undeb yn gwbwl wrthwybebus i gynllun fydd yn creu “un graddfa bandio (o 1 i 5)” ar gyfer pob ysgol.

Yn ôl Anna Brychan, does gan yr undeb ddim gwrthwynebiad i arolwg manwl o ddata perfformiad ysgolion er mwyn darganfod pa rai sydd angen mwy o gefnogaeth, ond dydyn nhw ddim yn credu fod cynlluniau’r Llywodraeth yn mynd i wneud hynny mewn ffordd effeithiol.

“Mae’r syniad o ‘fandio’ wedi ei sylfaenu ar astudiaeth o amryw o fesurau. Gall y bwriad i drosi rhain wedyn mewn i un graddfa syml ddim â chynrychioli’r darlun cyflawn o’r hyn mae’r ysgol yn ei wneud.

“Ond y perygl yw mai dyma’n union sut y bydd y radd unigol yn cael ei gweld,” meddai Anna Brychan.

‘Codi cywilydd’

Mae undeb athrawon NUT Cymru hefyd wedi gwrthwynebu’r system newydd, ac wedi rhybuddio y gallai arwain at ddirywiad yn safon yr ysgolion sy’n cael eu gosod ar y graddau isaf.

Yn ôl ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans, ychydig iawn o hyder sydd gan aelodau’r undeb yng nghynlluniau’r Llywodraeth, ac mae’n galw ar y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, i “ailystyried y ffordd mae’n mynd i’r afael â’r mater yn y dyfodol.”

Mae David Evans hefyd yn dweud fod pryderon ynglŷn â “natur y broses o fandio, a’i effaith ar ysgolion Cymru, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd unrhyw gyllid ychwanegol at ysgolion yn y bandiau gwaelod.”

Pwysleisiodd hefyd fod y rhan fwyaf o athrawon eisoes yn gweithio’n galed i sicrhau bod rhieni yn cael gwybod sut mae eu hysgolion yn perfformio.

“Ond mae’r broses yma o godi cywilydd yn rhywbeth yr oedden ni yng Nghymru yn falch iawn o fod wedi symud oddi wrtho, ac mae’n drueni mawr fod y Llywodraeth wedi penderfynu dychwelyd at system mor henffasiwn a mor gyfyngedig.”

Yn ôl David Evans, mae bandio ysgolion yn mynd y ffordd cwbwl anghywir o’i chwmpas hi wrth wella addysg yng Nghymru.

“Bydd hi’n rhoi dim pleser i’r NUT os yw’n rhybuddion ni, sy’n cael eu hanwybyddu, yn cael eu profi’n gywir,” meddai David Evans.

“Ein plant ni yng Nghymru fydd yn dioddef.”