Mae ymgyrchwyr dros wella’r cysylltiad tren rhwng Aberystwyth a’r Amwythig wedi cael eu siomi gan gyhoeddiad Strategaeth Trafnidiaeth y Llywodraeth heddiw.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Simon Thomas, sydd wedi bod yn ymgyrchu am well cysylltiadau tren rhwng Aberystwyth a’r Amwythig ers blynyddoedd bellach, mae’r cyhoeddiad yn syndod yn ogystal â siom.

“Cyfarfum â Carl Sargeant ychydig wythnosau yn ôl i’w annog i fwrw ymlaen â’r gwaith yn y Cynllun Trafnidaeth Genedlaethol,” meddai Simon Thomas.

Mae’r Aelod Cynulliad, ynghyd â Phartneriaeth Rheilffordd y Cambria, wedi bod yn siarad yn rheolaidd â’r gweinidog â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Carl Sargeant, ynglŷn â’r cynllun dros y misoedd diwethaf – a phob un yn dweud eu bod wedi cael ymateb cadarnhaol ganddo.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am gynyddu’r gwasanaeth ar lein y Cambria, rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, er mwyn cael trenau i redeg bob awr yn ystod oriau brig, yn hytrach na bob dwy awr fel sydd ar hyn o bryd.

Dywedodd Simon Thomas wrth Golwg 360 y prynhawn ’ma y byddai datgblygu’r gwasanaeth yn gam naturiol ymlaen ar ôl y buddsoddiad sydd eisoes wedi ei wneud wrth wella signalau ar y lein.

“Mae nifer ohonom wedi ymgyrchu i gael gwasanaeth tren bob awr o Aberystwyth i’r Amwythig ers rhai blynyddoedd,” meddai. “Mae’r gwaith isadeiledd wedi’i gwblhau erbyn hyn ac mae system signalu newydd yn ei lle i alluogi’r gwasanaethau.”

Ond cael ei siomi wnaeth yr Aelod Cynulliad gan y cyhoeddiad heddiw.

“Yn anffodus, yn y cyhoeddiad heddiw o flaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth, yr unig gyfeiriad at y cynllun yw ‘parhau a’r trafodaethau gyda Network Rail a Threnau Arriva.’

“Nid yw hyn yn ddigonol,” meddai. “Gwariwyd miliynau o bunnoedd ar wella’r lein, mae’n sarhad ar drigolion yr ardal na fydd modd buan i gael gwasanaethau bob awr,” meddai.

Dal i gyd-weithio…

Yn ei gyhoeddiad heddiw, dywedodd Carl Sargeant y byddai angen i’r Llywodraeth edrych tuag at y dyfodol wrth ddatblygu’r rheilffyrdd.

“Bydd angen cynllunio ar gyfer twf yn y defnydd o’r rheilfyrdd a cheisio gwneud y rheilffyrd yn fwy effeithiol ar yr un pryd.”

Dywedodd y gweinidog fod y Llywodraeth yn “arwain y gwaith o baratoi achos busnes ar gyfer trydaneiddio llinell y Great Western o Abertawe i Gaerdydd a Rheilffyrdd y Cymoedd,” ond roedd yn fud ar unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer lein y Cambria.

Ond fe ddywedodd y byddai’r Llywodraeth yn dal i “gydweithio’n agos â Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU” ar ddatblygu’r rheilffyrdd.

Y blaenoriaethau

Mae’r Strategaeth Drafnidiaeth yn cynnwys 25 o flaenoriaethau ar gyfer cynlluniau rhwng nawr a 2014.

Mae’r blaenoriaethau wedi eu rhannu i dri categori, sef datblygu rhwydwaith ffyrdd, gwella diogelwch ffyrdd a gwella cyfleusterau beicio a cherdded.

Mae’r cynlluniau ar gyfer gwella’r rhwydwaith ffyrdd yn gobeithio “mynd i’r afael â thlodi a chynyddu lles pobol,” ac maen nhw’n cynnwys gwelliannau i’r ffyrdd ar yr A465 rhwng Dowlais Top a Hirwaun, gwella’r mynediad i ganol  dref ac ysbyty Cwm Cynon, a mesurau i leihau tagfeydd traffig ar Bont Britania.

Mae’r gwelliannau diogelwch yn cynnwys gosod un camera cylch cyfyng ar yr A465 yng Nghwm Clydach, gwella’r groesfan ar yr A458 yn y Trallwng, a rhoi rheilins newydd ar y bont droed ger y rheilffordd ar yr A487 ym Machynlleth.

Bydd y buddsoddiad wrth wella cyfleusterau ar gyfer cerdded a beicio yn cynnwys llwybr beicio Morfa Conwy ar yr A55, cynllun beicio a cherdded rhwng Tywyn a Bryncrug, a chyllid ar gyfer standiau beiciau mewn ysgolion, ac arian ar gyfer cynllunio teithio.