Mae’r heddlu’n ymchwilio y bore ’ma wedi i ddyn gael ei saethu yn ei law ar ystâd yn Sir Benfro neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ystad Mount, yn Aberdaugleddau, am 7.20pm neithiwr, wedi iddyn nhw dderbyn galwad yn dweud bod dyn wedi cael ei saethu yn ei law.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys wrth Golwg 360 fod swyddogion yr heddlu wedi mynd i’r ystâd yn sgil yr alwad, a bod y dyn wedyn wedi ei gludo i’r ysbyty er mwyn cael triniaeth ar gyfer anafiadau.

Mae Golwg 360 ar ddeall fod y dyn wedi derbyn triniaeth ar gyfer mân anafiadau a’i fod bellach wedi ei ryddhau o’r ysbyty.

Mae’r heddlu’n dweud y bydd eu hymchwiliadau i’r digwyddiad yn parhau heddiw.