Cyhoeddodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad i’r ffordd yr oedd Heddlu Gwent wedi delio â mater disgyblaeth.

Mae’n ymwneud â chwyn a wnaed i’r heddlu ar 2 Tachwedd 2010 a’r achos disgyblaeth wnaeth ddilyn ar 2 Rhagfyr 2010.

Mae nhw’n ymchwilio i’r ffordd  roedd yr heddlu wedi delio â chwyn yn erbyn swyddog yr heddlu yr honnir iddo gael rhyw gyda gwraig yr achwynwr tra ar ddyletswydd.

Roedd yr achwynwr wedi apelio i CCAH yn dilyn yr achos disgyblaeth, lle cafodd y cwnstabl  rybudd ysgrifenedig terfynol.

Roedd CCAH wedi cefnogi’r apêl ac roedd yr heddlu wedi cynnal achos camymddygiad a benderfynodd y dylai’r cwnstabl gael ei ddiswyddo.

Dywedodd Comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yng Nghymru, Tom Davies: “Rydw i’n bryderus ynglŷn â’r ffordd roedd Heddlu Gwent wedi delio â chwyn ddifrifol, oherwydd y gallai danseilio hyder y cyhoedd yn y system gwynion. Rydw i wedi penderfynu y dylai CCAH ymchwilio i’r mater.

“Mae’r achos wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau ac yn ymwneud â swyddog drylliau.

“fe fyddwn yn cyhoeddi ein casgliadau yn y man, gan obeithio y bydd yn helpu i leddfu unrhyw bryderon  ymhlith y cyhoedd ynglŷn a’r ffordd mae’r heddlu yn delio â chwynion.”