Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cynnal ymchwiliad annibynnol ar ôl i Heddlu’r Gogledd gael eu galw i ddigwyddiad ym Mwcle, Sir y Fflint neithiwr lle bu farw dyn.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi anfon ymchwilwyr i’r safle ac fe fyddan nhw’n rhyddhau datganiad yn y man.