Hanson Cement yn Sir y Fflint
Fe fydd chweched cyfarfod Tîm Ymateb i Ymchwiliad Hanson Cement yn cael ei gynnal heddiw.

Daw hyn wedi penderfyniad y Gweinidog Iechyd i gynnal ymchwiliad i bryderon iechyd yn ardal gwaith sment yn Sir y Fflint.

Eleni, cafodd gwaith Hanson Cement yn Padeswood ei ddirwyo ar ôl i Asiantaeth yr Amgylchedd ddod ag achos yn eu herbyn yn ymwneud a llwch a sŵn o’r safle.

Heddiw, bydd arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cyflwyno elfennau terfynol gwaith yr ymchwiliad.

Bydd fersiwn drafft o adroddiad terfynol yr ymchwiliad yn cael ei gyflwyno hefyd. Bydd hwn yn dod â chanfyddiadau meysydd unigol yr ymchwiliad ynghyd.

‘Ddim tu hwnt i safonau aer lleol’

Dywedodd yr Athro David Russell, Pennaeth Canolfan Ymbelydredd, Cemegau a Pheryglon Amgylcheddol (Cymru): “Mae adroddiadau blaenorol wedi dangos bod ansawdd aer yn Sir y Fflint wedi bod yn dda ac yn gwella.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir bod allyriadau llygryddion wedi bod yn gostwng ar lefel genedlaethol a bod hyn hefyd yn wir am Hanson Cement.

“Mae sawl ffynhonnell llygryddion aer yn y rhanbarth, ac un yn unig yw Hanson Cement. Mae’r ffynonellau hyn yn cynnwys ffynonellau naturiol a rhai a wnaed gan ddynion, yn ogystal â ffynonellau mewnol ac awyr agored. Mae allyriadau cerbydau hefyd yn ffynhonnell bwysig.

“Mae monitro ansawdd aer ar gyfer y llygrwyr hyn yn Sir y Fflint yn dangos nad yw y tu hwnt i safonau ansawdd aer. Gan fod y safonau hyn yn seiliedig ar iechyd, mae’n annhebygol bod effaith ar iechyd y cyhoedd.”

Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn cefnogi rhai adroddiadau blaenorol yr ADI ar ansawdd aer lleol ac allyriadau deuocsinau.

Roedd yr  adroddiad hwn wedi canfod bod allyriadau deuocsinau o’r gwaith sment wedi gostwng yn sylweddol er 2000.

Camau nesaf yr ymchwiliad

Cam nesaf yr ymchwiliad fydd gofyn barn trigolion lleol am y ffordd y caiff y canfyddiadau eu cyflwyno ac a aed i’r afael â’u pryderon. Bydd hyn yn dechrau ym mis Ionawr 2012.

Rhagwelir y bydd adroddiad terfynol yr ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2012.