Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth bron i £1.4 biliwn heddiw, er mwyn adeiladu ysgolion newydd ar draws Cymru.
Y prynhawn ’ma fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Leighton Andrews y byddai’r buddsoddiad o bron i £1.4 biliwn yn cael ei wneud fel rhan o raglen Ysgolion 21ain Ganrif y Llywodraeth – gyda £700 miliwn yn cael ei gyfrannu gan Lywodraeth Cymru, a £700 miliwn yn cael ei gyfrannu gan lywodraethau lleol.
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn golygu bod awdurdodau addysg ar draws y wlad wedi cael clywed a fu eu cais yn llwyddiannus am gyfraniad ariannol gan y Llywodraeth ar gyfer eu cynlluniau.
Bu’n rhaid i awdurdodau lleol ail-gyflwyno’u cynlluniau ar gyfer yr ysgolion, i gael eu cymeradwyo gan y Llywodraeth, fis Tachwedd eleni.
Cyfrannu
Roedd nifer o’r awdurdodau lleol eisoes wedi cynnig ceisiadau dan y ddealltwriaeth y byddai’r Llwodraeth yn cyfrannu 50% o’r costau, ond ym mis Gorffennaf eleni fe gyhoeddodd Leighton Andrews y byddai’n rhaid i awdurdodau fod yn barod i gyfrannu 70% o’r gost.
Mae’r Llywodraeth yn dweud y bydd y buddsoddiad hwn yn mynd i’r afael ag ysgolion sydd mewn cyflwr gwael, tra hefyd yn darparu ysgolion sy’n gosteffeithiol ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Leishton Andrews y byddai’r buddsoddiad yn “sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ddarparu’r amgylchedd dysgu gorau i’n disgyblion.”
Yn ôl y cynghorydd Peter Fox, Llefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae’r “awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu prosiectau adeiladu ysgol sy’n hanfodol bwysig yn eu hardaloedd, a bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw gan y Gweinidog yn caniatau iddyn nhw gyflawni’r blaenoriaethau hyn.”
Awdurdodd Addysg Rhondda Cynon Taf fydd yn derbyn y buddsoddiad mwyaf yn sgil cyhoeddiad y Llywodraeth, gyda chynllun gwerth £160 miliwn i ariannu naw prosiect i ad-drefnu ysgolion o fewn yr awdurdod.
Bydd 25 ysgol yn elwa o fuddsoddiad o £137 miliwn yng Nghaerdydd.
Mae ad-drefnu ysgolion ardal Y Gader a’r Berwyn hefyd wedi cael sêl bendith y Llywodraeth, fel rhan o fuddsoddiad gwerth ychydig dros £36 miliwn i bump cynllun ar draws Gwynedd.
Mae’r cyhoeddiad yn newyddion da i’r ysgolion a fu’n llywddianus wrth sicrhau cyfraniad Llywodraeth Cymru i’r prosiectau newydd. Ond mae un elfen o’r cyhoeddiad sy’n debygol o effeithio ar y cynlluniau – a hwnnw yw pryd y bydd yr arian yn dod trwodd.
Yn ôl cyhoeddiad Leighton Andrews heddiw, fe fydd yr arian yn cael ei ryddhau ar gyfer yr ysgolion newydd o 2014-15 ymlaen. Mae hyn yn mynd i fod yn ychydig o ergyd i gynlluniau fel yr un yn Llanysul, yng Ngheredigion, oedd yn gobeithio y byddai hi’n bosib agor drysau’r ysgol newydd erbyn y flwyddyn addysgiadol 2013-14.
Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r datganiad
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dyweddodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Rydyn yn llawenhau yn y newyddion bod gan y ddwy ysgol uwchradd yn ardaloedd y Bala a Llandysul sicrwydd arian ar eu cyfer. Rydyn ni’n falch hefyd bod y Gweinidog wedi gwneud unrhyw ddyraniad arian cyfalaf yn amodol ar dderbyn cynlluniau busnes boddhaol oddi wrth y cynghorau.
“Yn hynny o beth, disgwyliwn i gynghorau Gwynedd a Cheredigion fanteisio ar y cyfle o wneud defnydd gwell o’r arian sydd ar gael iddynt. Byddai hynny’n golygu yn ardal y Berwyn buddsoddi yn yr adeiladau presennol yn hytrach na chau Ysgol y Parc.
“Yn Llandysul, dylai’r cyngor adeiladu ar gyfer yr oed uwchradd yn unig gan greu ffederasiwn gyda’r ysgolion pentrefol cyfagos. Bellach, mae gan swyddogion y Cyngor a’r cynghorwyr siawns i ddangos eu bod nhw’n gallu gweithredu’n well yn amgylcheddol ac yn ariannol.”