Lisa McGungle
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi galw am wybodaeth yn dilyn diflaniad merch 16 oed o Sir Benfro.

Mae Lisa McGungle o Ddoc Penfro wedi bod ar goll ers dydd Mercher, 30 Tachwedd.

Dywed r heddlu ei bod hi’n 5’6”, fod ganddi wallt hir blond, ei bod hi’n denau. Pan welwyd hi ddiwethaf roedd hi’n gwisgo esgidiau du ffwr, jeans glas a thop du oedd yn cyrraedd ei phengliniau.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod lle mae Lisa McGungle ffonio’r heddlu ar 101.