Joanne Walker
Mae Diwrnod AIDS y Byd yn nodi 30 mlynedd ers i’r person cyntaf gael diagnosis o Aids ym Mhrydain.

Ar Fehefin 5, 1981 roedd cylchgrawn meddygol yn yr UDA wedi sôn am salwch oedd wedi lladd pump o ddynion yn Los Angeles. Dyna oedd y sylw cyntaf i’r feirws sydd bellach yn cael ei adnabod fel Aids, ac ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno cafodd y diagnosis cyntaf ei wneud yn y DU.

Bellach mae 86,500 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU – pedair gwaith y nifer ym 1993. Yn fyd eang mae, Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod hyd at 30 miliwn o oedolion a 3 miliwn o blant yn dioddef o’r feirws. Yn ystod y cyfnod hwn mae nifer y rhai sy’n dioddef o Aids wedi haneru o ganlyniad i feddyginiaethau anti-retroviral.

Profiad merch o Wrecsam

Ymhlith y rhai sy’n byw gyda’r feirws HIV mae merch ifanc o ardal Wrecsam.

Mae’n ddeuddeng mlynedd ers i Joanne Walker gael gwybod ei bod yn HIV positif. Roedd hi’n 18 blwydd oed ac yn fyfyrwraig yn astudio gradd Cyfryngau yn y Coleg.

“Dyma fy mherthynas rywiol gyntaf. Roedd fy nghariad, yn wreiddiol o Ghana, ychydig hŷn na mi. Roeddwn i’n 18 ac ef tua 25/26,” meddai Joanne Walker.

“Roedd o’n llawn perswâd. Fe ddywedodd bopeth wrtha’ i y byddai merch 18 oed eisiau ei glywed. Dywedodd mai fi oedd y ferch yr oedd o eisiau ei phriodi a bod o eisiau setlo i lawr hefo fi,” meddai.

Cafodd Joanne Walker wybod ei bod yn HIV positif ar ôl dioddef symptomau ffliw a gwres. Dim ond unwaith yr oedd wedi cysgu â’i chariad heb ddefnyddio condom, meddai, ac mae’n credu bellach bod ei hunig bartner yn gwybod ei fod yn HIV positif pan oedd yn cysgu â hi.

“Pan ges i wybod, fe aeth y cyfan uwch fy men… Fe ddywedon nhw wrtha’ i y byddai gen i 10 mlynedd o iechyd eithaf da ac yna 10 mlynedd efallai ar feddyginiaeth anti-retrovirals. Doeddwn i ddim yn credu’r peth – mai dim tan tua 40 oed y gallwn i fyw.”

Ei hymateb cyntaf o wybod ei bod yn byw â’r firws oedd “cwestiynu pwynt ei bywyd”, meddai. “Ro’n i’n meddwl na fyddai neb eisiau fy mhriodi na chael teulu hefo fi.”

Erbyn hyn mae Joanne Walker yn 30 oed ac yn gweithio mewn siop. Ar ôl cael y diagnosis HIV, gadawodd y Coleg ac nid yw wedi dychwelyd. Ond, mae pethau wedi gwella gyda chefnogaeth grwpiau ac elusennau, meddai.

Gellir darllen rhagor o’r cyfweliad yn rhifyn Golwg heddiw.

‘Angen codi ymwybyddiaeth’

Fe ddywedodd Dr Olwen Williams sy’n arbenigo mewn HIV wrth Golwg360 fod angen rhagor o godi ymwybyddiaeth am yr haint yng Nghymru.

Nid codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd yn unig, meddai ond “codi ymwybyddiaeth o fewn y sector meddygol,” meddai gan ddweud bod prawf gwaed am gyflyrau iechyd eraill weithiau’n amlygu’r haint.

Mae mwy o bobl yng Nghymru yn byw â’r firws, ond mae hynny oherwydd bod “meddygon yn darganfod yr haint yn gynt ac yn cynnig triniaeth” meddai gan egluro fod meddygon wedyn yn gallu cynnig cymorth i ddioddefwyr a phartneriaid rhywiol dioddefwyr.

Yn y pum mlynedd diwethaf, mae tua 150 o bobl bob blwyddyn yn profi’n positif, meddai. Mae’r oed prawf positif cyfartalog rhwng 35 a 40, meddai.

Arddangosfa

Mae Cymorth Cristnogol wedi partneru â Magnum Photos i lansio arddangosfa ‘Stigma Dan y Lens’ ar ddiwrnod AIDS y byd. Mae’r arddangosfa ffotograffiaeth yn bwrw goleuni ar unigolion dewr o amgylch y byd sy’n byw gydag HIV dan gysgod stigma.

“Mae stigma a rhagfarn yn erbyn pobl sy’n byw gyda HIV yn digwydd dros y byd. Mae hynny yn deillio o ddiffyg gwybodaeth ac addysg. Dyna pam mae’r arddangosfa ffotograffiaeth ‘Stigma Dan y Lens’ mor bwysig –  i ddangos bod pobl sy’n byw gyda HIV o India i Gymru yn byw dan gysgod rhagfarn a chasineb.

“Nod yr arddangosfa yw adlewyrchu hyn, ond hefyd i godi ymywbyddiaeth am HIV ac addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd trin pobl gyda pharch ac urddas,” meddai Branwen Niclas, Cymorth Cristnogol wrth Golwg360.