Malcolm Davies
Y ffermwr gwartheg godro o Ben Llŷn, Malcolm Davies, sydd wedi ennill cystadleuaeth Fferm Ffactor 2011, a hynny ar ôl cystadleuaeth frwd iawn gan ei gyd-amaethwyr.

Malcolm Davies o Ddinas, ger Pwllheli, yw’r ‘Gog’ cynta i ennill y teitl, a’r cerbyd gyriant pedair olwyn Isuzu Rodeo Denver.

Cafodd y ffermwr 38 oed ei goroni’n bencampwr Fferm Ffactor yn rownd derfynol y gyfres ar S4C neithiwr, yn un o’r cystadleuthau agosaf yn hanes y rhaglen.

“Y gystadleuaeth eleni oedd yr agosa’ ers i’r gyfres ddechrau yn 2009,” meddai un o feirniaid y rhaglen, yr Athro Wynne Jones.

“Doedd fawr ddim yn gwahanu’r tri yn y diwedd,” meddai Wynne Jones, wrth sôn am y ddau arall oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol gyda Malcolm Davies, sef Aled Roberts o Lanrheadr ym Mochnant a Sam Carey o Roshill, Sir Benfro.

“Ond mae’n bencampwr haeddiannol dros ben, a oedd yn dangos yr hyder a’r gallu i ganolbwyntio wrth daclo’r tasgau.

“Roedd yn gyson iawn gydol y gyfres ac yn gallu cadw ei bwyll wrth berfformio. Mae’n un da am weithio mewn tîm a chwblhau tasg yn fanwl ac yn drwyadl,”

‘Cystal â ffermwyr y de!’

Daw’r canlyniad neithiwr â diwedd i saith wythnos o gystadlu rhwng y ffermwyr, ac mae Malcolm Davies yn dweud ei bod hi’n “fraint o’r mwyaf” i ddod i’r brig ar ôl yr holl gystadlu.

“Mae Pen Llŷn yn ardal amaethyddol gre’ ac roeddwn i am ddangos ein bod cystal pob tamaid a ffermwyr y de!” meddai Malcolm, sydd mewn partneriaeth ar y fferm gyda’i ddau frawd a’i dad.

“Dwi’n gweithio hefo gwartheg godro yn unig, felly roedd gen i lawer i’w ddysgu wrth ddelio hefo defaid yn enwedig. Fe wnes i’n ddigon da mewn tasgau eraill i ennill y bleidlais, diolch i’r drefn.

“Dwi newydd gael fy mhen-blwydd yn 38 oed, felly roedd ennill y wobr fath a gwireddu breuddwyd. Fe ddaeth y 4.x4 Isuzu Rodeo Denver ar yr adeg iawn inni ar y fferm gan fod yr hen dryc wedi torri yn ddiweddar.”

Malcolm Davies yw’r trydydd ffermwr i ennill teitl Fferm Ffactor, ar ôl i Teifi Jenkins ddod i’r brig y llynedd, ac Aled Rees – sydd bellach yn feirniad ar y rhaglen – ddo i’r brig yn 2009.