Mae trefnwyr y Ffair Aeaf yn dathlu ar ôl deuddydd llwyddiannus yn Llanelwedd eleni, gyda ffigyrau ymwelwyr dydd Llun yn torri bob record flaenorol.

Aeth 27,995 o bobol drwy’r giatiau yn ystod deuddydd y Ffair Aeaf ddechrau’r wythnos – 6,840 yn fwy na’r llynedd, gan dorri’r record flaenorol a osodwyd yn 2006, gyda 999 o ymwelwyr ychwanegol.

Daw’r newyddion da hyn i drefnwyr ar ôl blwyddyn anodd iawn i’r Ffair Aeaf y llynedd, pan fu’r eira trwm yn rwystr i nifer rhag cyrraedd y sioe, na chystadlu yn y sioe amaethyddol.

Roedd y trefnwyr wedi cymryd camau ychwanegol eleni, trwy ddarparu stoc ychwanegol o halen a trefnu bod contractiwr ar alwad.

Ond pan agorodd giatiau’r Ffair Aeaf yn swyddogol ddydd Llun, roedd hi’n llawer mwynach na’r disgwyl, a chroesawyd 14,801 o bobol drwy’r giatiau – gan dorri’r record am nifer yr ymwelwyr mewn un diwrnod, a osodwyd yn y Ffair Aeaf yn ôl yn 2006, pan ddaeth 13,689 o ymwelwyr i’r sioe.

Dim dianc rhag yr Ewro

Agorwyd y Ffair Aeaf eleni gyda rhybudd y gallai allforion o gig oen ostwng, os yw gwerth yr Ewro yn disgyn.

Yn ôl Moss Jones, Cyfarwyddwr Cymdeithas Trefnwyr Amaethyddol Cymru, mae angen i bawb fod yn ymwybodol o ddylanwad sefyllfa economaidd Ewrop ar Brydain.

“Mae’n rhaid i ni gyd boeni am y sefyllfa economaidd sy’n parlysu llawer o Ewrop,” meddai.

“Gallai Gostyngiad yng ngwerth yr Ewro gael effaith andwyol ar ein gallu i allforio cig oen, er enghraifft, tra byddai gwasgfa hirdymor ar gredyd yn atal buddsoddiad newydd.”

Ond dywedodd Moss Jones ei fod yn hyderus y byddai’r Sioe Frenhinol a’r Ffair Aeaf yn parhau i fod yn ffenest siop bwysig a chadarnhaol i’r byd ar ffermio a’r ffordd amaethyddol o fyw yng Nghymru.

“Mae’r Sioe Frenhinol yn ymwneud â phobol, ac mae ei lwyddiant yn ymwneud â’r ffordd y mae’n cyfuno profiad a doethineb y rhai sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i’w bwyllgorau, ac yn gweithio’n ddiflino dros y Sioe.”