Mae ffermwyr Cymru yn llawer mwy ffyddiog am y dyfodol eleni nag oedden nhw’r llynedd, yn ôl canlyniadau arolwg fydd yn cael ei gyhoeddi yn y Ffair Aeaf heddiw.

Yn ôl yr arolwg newydd gan undeb amaethyddol NFU Cymru, sy’n cael ei lansio yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw, mae 60% o ffermwyr yn fwy hyderus am ddyfodol ffermio nawr nag oedden nhw 12 mis yn ôl.

Wrth baratoi at lansio’r casgliadau newydd heddiw, dywedodd Llywydd yr NFU, Ed Bailey, fod gan brisiau’r farchnad llawer i wneud â hyder ffermwyr.

“Mewn sector lle mae elw yn draddodiadol isel, yn enwedig ar draws y sector cig eidion a chig oen, mae’r arolwg yn dangos cynnydd mewn hyder. Does dim amheuaeth fod hyn yn gysylltiedig â’r prisiau, a disgwyliadau elw,” meddai.

Roedd 50% o’r rhai a holwyd hefyd yn ystyried cynyddu eu cynhyrchiant yn y bum mlynedd nesaf, gyda dim ond 14% yn ystyried torri’n ôl ar eu cynhyrchiant.

“Dyma arwydd clir fod ffermwyr yn ystyried buddsoddi yn eu busnesau ar gyfer y tymor hir,” meddai.

Dywedodd hefyd fod gwerthfawrogiad prynwyr bwyd o’r hyn y maen nhw’n ei brynu, a’i fwyta, hefyd wedi helpu hyder ffermwyr Cymru.

“Mae mwy a mwy o ymwybyddiaeth ymhlith cwsmeriaid ynglŷn â tharddiad yr hyn y maen nhw’n ei fwyta, a’r angen i warchod yr amgylchedd,” meddai. “Ac o ran hynny mae ffermwyr Cymru yn y lle gorau i ateb y gofynion.”

Ond mae pryderon yn parhau ynglŷn ag effaith costau uchel a rheoliadau llym ar y diwydiant.

“Mae’r cynnydd mewn prisiau yn sicr wedi codi hwyl y farchnad, ond mae ffigyrau Hybu Cig Cymru yn pwysleisio fod costau yn cynyddu’n llawer cyflymach nag enillion y farchnad,” meddai Ed Bailey.

“Mae’n newyddion da fod y genhedlaeth bresennol o ffermwyr yn frwdfrydig ac yn gyffrous unwaith eto dros ddenu eu meibion a’u merched i ymuno â’r diwydiant.

“Mae hefyd yn braf bod y genhedlaeth nesaf yn gallu gweld dyfodol cadarnhaol i ffermio ac eisiau chwarae eu rhan wrth sicrhau ein bod ni’n gallu darparu cynnyrch gorau’r byd i’r cwsmer yma, yng Nghymru.”

Bydd yr arolwg yn cael ei lansio’n swyddogol yn y Ffair Aeaf am 11.45am y bore ’ma, ym mhencadlys NFU Cymru, ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.