Fe fydd adolygiad allanol i ymateb ysbyty yn Abertawe i achosion o E.coli ar ôl i ddau fabi farw, er mwyn sicrhau bod yr uned yn ddiogel i wragedd beichiog.

Dim ond genedigaethau sydd wedi cyrraedd y cyfnod llawn o 40 wythnos sy’n cael eu derbyn i uned famolaeth Ysbyty Singleton yn y ddinas ar hyn o bryd.

Bu farw Hope Erin Evans, oedd wedi ei geni’n “gynnar iawn”, ar ôl cael ei heintio â math ESBL o E.coli yn yr uned.

Roedd yr ail achos yn ymwneud â babi y credir i’w fam gael ei heintio yn yr ysbyty. Roedd y ddau fabi wedi marw yn yr ysbyty.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ymchwilio i’r ddau achos o ESBL E.coli yn uned famolaeth yr ysbyty. Fe fyddan nhw’n ceisio darganfod sut yr oedd y traws heintiad wedi digwydd.

Heddiw dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: “Yn dilyn trafodaethau rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Arolygiaeth Iechyd Cymru, fe gytunwyd y byddai’r arolygiaeth yn cynnal adolygiad allanol o’n  hymateb i achos y traws heintiad o ESBL E.coli yn yr uned famolaeth.

“Pwrpas yr adolygiad yw sicrhau bod Arolygiaeth Iechyd Cymru yn fodlon bod y bwrdd iechyd wedi cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i achos y traws heintiad, bod rheoli’r heintio ar y cyd â Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn effeithiol, a bod trefniadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer gofal parhaol mamau a babanod yn ddiogel ac yn addas.”

Mae disgwyl i’r adolygiad ddechrau ar ôl i ymchwiliad y bwrdd iechyd i’r achosion o ESBL E.coli ddod i ben.

Yn y cyfamser mae penaethiaid ysbyty yn awyddus i leddfu pryderon am unrhyw risg posib. Mae nhw’n pwysleisio nad ydy ESBL E.coli yr un fath â E.coli 0157, sy’n achosi gwenwyn bwyd.

Dyw  ESBL E.coli  ddim yn achosi problemau i’r rhan fwyaf o bobl ond fe all achosi heintiau difrifol i unigolion bregus fel yr henoed a babanod sydd wedi eu geni’n gynnar.

Mae’r ysbyty wedi pwysleisio eto heddiw nad oes unrhyw dystiolaeth bod yr haint wedi lledu ymhellach.

Dywedodd Dr Bruce Ferguson, cyfarwyddwr meddygol  Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod eisiau sicrhau mamau sy’n disgwyl rhoi genedigaeth yn yr ysbyty bod yr uned famolaeth yn agored fel arfer ar gyfer genedigaethau sydd 40 wythnos neu drosodd.

Mae’r ysbyty yn dal i gyfyngu nifer sy’n cael dod mewn i’r uned i fabanod sydd dros 36 wythnos.

Dywed Dr Ferguson eu bod yn arolygu’r sefyllfa yn gyson ac yn gobeithio codi’r cyfyngiadau’n fuan.

Ychwanegodd y dylai unrhyw un â phryderon neu gwestiynau gysylltu â’u bydwraig cymunedol neu ffonio llinell gymorth yr ysbyty ar 0774 761 5627.