Kirsty Williams
Mae angen i benaethiaid iechyd dawelu meddyliau gwragedd beichiog, dyna’r neges gan wleidyddion ar ôl i ddau fabi farw mewn ysbyty yn Abertawe yn sgil achosion o E.coli.

Mae’r uned famolaeth yn Ysbyty Singleton, Abertawe yn dal ar gau i fabanod sy’n cael eu geni’n gynnar yn sgil y marwolaethau, er ei fod ar agor i fabanod sydd wedi eu geni ar ôl y cyfnod llawn.

Mae un o’r babanod eisoes wedi cael ei henwi’n lleol fel Hope Erin Evans, er bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg wedi dweud wrth Golwg 360 nad nhw wnaeth ryddhau’r enw.

Dywedodd y llefarydd wrth Golwg 360  bod  y teulu wedi gofyn iddyn nhw  beidio a datgelu unrhyw fanylion personol.

Ond, mae staff yn yr ysbyty wedi cadarnhau fod y baban wedi cael ei eni’n “gynnar iawn” yn yr uned famolaeth, a’i bod wedi marw o haint ESBL E.coli.

Mae’r ail achos yn ymwneud â babi a gafodd ei eni i fam a oedd, yn ôl y casgliadau cynnar, wedi cael ei heintio â ESBL E.coli tra’r oedd hi yn yr ysbyty.

Marw yn yr ysbyty

Heddiw, mae penaethiaid iechyd wedi pwysleisio bod y ddau fabi wedi marw tra yn yr ysbyty yn Singleton.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg bod angen “gwneud yn glir fod y marwolaethau wedi digwydd o fewn yr ysbyty, ond dim ond gydag un o’r marwolaethau hynny yr oedd unrhyw bryder ynglyn â thraws-heintio.”

Roedd y babi arall wedi cael ei heintio y tu allan i’r ysbyty.

Mae’r ymchwiliad i’r modd y llwyddodd yr haint i ledu yn parhau heddiw, gyda’r ymchwiliad bellach yn edrych ar bump achos o bobol yn dioddef o ESBL E.coli, a tri o’r rheiny’n oedolion. O’r pump achos sydd wedi eu hadnabod hyd yma, roedd tri wedi cael eu heintio tu allan i’r ysbyty.

‘Trasiedi difrifol’

Mae Kirsty Williams, arweinydd y Demcratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi disgrifio’r marwolaethau fel “trasiedi difrifol.”

Ychwanegodd bod angen “cymryd camau i ddarganfod beth sydd wedi digwydd a sut y caniatawyd i hyn ddigwydd.

“Tra bod yr uned ar gau dros dro i rai cleifion, mae angen tawelu meddyliau menywod beichiog yr ardal, sy’n disgwyl rhoi genedigaeth yn yr uned hon, fod opsiynau eraill ar gael iddyn nhw yn y cyfamser.”

Ddoe, fe ddywedodd Cyfarwyddwr y Bwrdd Iechyd, Dr Bruce Ferguson, eu bod eisiau sicrhau mamau sy’n disgwyl rhoi genedigaeth yn yr ysbyty bod yr uned famolaeth yn agored fel arfer ar gyfer genedigaethau dros 40 wythnos.

Delio â’r haint

Mae swyddogion iechyd yn pwysleisio heddiw nad ydy ESBL E.coli  yr un fath â E.coli 0157 sy’n achosi gwenwyn bwyd.

Dydi ESBL E.coli ddim yn achosi problemau i’r rhan fwyaf o bobl ond fe all achosi heintiau difrifol i unigolion bregus.

Mae profion wedi cael eu cynnal ar gleifion, offer a gwahanol rannau’r uned famolaeth erbyn hyn, ond does dim prawf fod o E.coli ESBL wedi ei ddarganfod, meddai Dr Ferguson.

Er hyn, mae’r ysbyty wedi cymryd camau i lanhau’r theatrau a’r wardiau babanod.

Dywed yr ysbyty eu bod yn arolygu’r sefyllfa yn gyson ac yn gobeithio codi’r cyfyngiadau’n fuan.

Ond maen nhw’n dweud wrth unrhyw un sydd â phryderon neu gwestiynau gysylltu â’u bydwraig gymunedol neu ffonio llinell gymorth yr ysbyty ar 0774 761 5627.