Mae dau fabi wedi marw ar ôl cael eu heintio â E.coli, fe gadarnhaodd swyddogion iechyd heddiw.

Mae ymchwiliad ar y gweill i’r ddau achos yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Roedd un o’r babanod wedi ei eni’n gynnar ac wedi marw yn yr ysbyty.

Mae’r ail achos yn ymwneud â babi fu farw yn y gymuned, ond credir  bod y fam wedi cael ei heintio gyda math ESBL  E.coli  yn yr ysbyty.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sy’n gyfrifiol am Ysbyty Singleton, yn ymchwilio i’r ddau achos o E.coli yn uned famolaeth yr ysbyty.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Dr Bruce Ferguson bod profion wedi dangos bod un o’r babanod wedi ei heintio â ESBL E.coli yn yr ysbyty.

“Yn drist iawn, roedd yn fabi oedd wedi ei eni’n gynnar iawn ac er gwaetha ymdrechion y staff, bu farw’n ddiweddarach. Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y crwner i achos marwolaeth y babi.”

Roedd yr ail achos yn ymwneud â mam sydd wedi ei heintio gyda ESBL E.coli ond sydd ddim wedi dangos unrhyw symptomau a sydd ddim yn gorfod cael triniaeth.

Mae’n debyg ei bod hi hefyd wedi cael ei heintio yn yr ysbyty ond ni ellir cadarnhau hynny nes bod canlyniadau profion yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf.

Mae swyddogion iechyd yn pwysleisio nad ydy ESBL E.coli yr un fath â E.coli 0157 sy’n achosi gwenwyn bwyd.

Dyw  ESBL E.coli  ddim yn achosi problemau i’r rhan fwyaf o bobl ond fe all achosi heintiau difrifol i unigolion bregus.

Mae profion wedi cael eu cynnal ar gleifion, offer a gwahanol rannau’r uned famolaeth ond does dim prawf o ESBL E.coli wedi ei ganfod, meddai Dr Ferguson.

Er hyn, mae’r ysbyty wedi cymryd camau i lanhau’r theatrau a’r wardiau babanod.

Mae’r ysbyty hefyd wedi cyfyngu nifer y babanod sy’n cael dod mewn i’r uned i fabanod sydd dros 36 wythnos.

Dywed yr ysbyty eu bod yn arolygu’r sefyllfa yn gyson ac yn gobeithio codi’r cyfyngiadau’n fuan.

Dywedodd Dr Ferguson bod babanod sydd wedi cyrraedd y cyfnod llawn o 40 wythnos yn dal i gael eu geni yn ôl yr arfer yn Uned Famolaeth Ysbyty Singleton.

Dywedodd eu bod eisiau sicrhau mamau sy’n disgwyl rhoi genedigaeth yn yr ysbyty bod yr uned famolaeth yn agored fel arfer ar gyfer genedigaethau sydd 40 wythnos neu drosodd.

Ond ychwanegodd y dylai unrhyw un â phryderon neu gwestiynau gysylltu â’u bydwraig cymunedol neu ffonio llinell gymorth yr ysbyty ar 0774 761 5627.

Mae’r  ddau achos o ESBL E.coli wedi eu cysylltu â thri achos arall o ESBL E.coli, lle roedd y rhai hynny wedi eu heintio tu allan i’r ysbyty.

“Yn anffodus, yn un o’r achosion yma, mae babi ifanc iawn wedi marw. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r uned wedi ei tristau,” meddai Dr Ferguson.

Dywedodd nad oedd rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd tra bod yr ymchwiliad yn parhau.