Fe fydd Cyngor Powys yn pleidleisio ar gynllun dadleuol i ad-drefnu addysg yn y sir heddiw.

Mae 13 o ysgolion uwchradd yn y sir ar hyn o bryd, ond fe fyddai’r cynigion yma yn golygu mai ychydig dros draean o’r rheiny fyddai’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion y sir.

Eisoes, mae’r cynlluniau wedi’u beirniadu’n llym gan rai gan gynnwys arweinydd y grŵp Ceidwadol ar Gyngor Powys, Aled Davies. Mae’r cynghorydd  wedi rhybuddio bod y Welsh Not ar fin dychwelyd i’r system addysg yn y sir  – dywedodd bod y cynnig i dynnu addysg cyfrwng Cymraeg o Ysgol Uwchradd Llanidloes yn “warthus”.

Ond, yn ôl yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, y cynghorydd Stephen Hayes, mae’r newidiadau’n cael eu gwneud “oherwydd  yr angen i wella dewis a chysondeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg Powys.”

Yn ôl y llefarydd, mae’r saith ysgol uwchradd sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir ar hyn o bryd yn anghyson iawn eu safon. Byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn dod yn flaenoriaeth yn y pum ysgol sy’n weddill.

Ond fe ddatgelodd mai dim ond tair o’r rheiny fyddai’n darparu addysg ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg – sef ysgolion uwchradd Caereinion, Llanfair-ym-Muallt, a Bro Ddyfi. Ond gyda’r cynllun newydd, fe fyddai gofyn i’r tair ysgol honno sicrhau bod o leia’ 80% o’u pynciau lefel A yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg, meddai’r llefarydd.

‘Anghyfreithlon’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges at Gyngor Sir Powys o flaen y cyfarfod heddiw i’w rhybuddio nad ydynt yn gweithredu’n gyfreithlon o ran eu cynlluniau i gwtogi ar addysg uwchradd Gymraeg.

“Byddai terfynu’n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn debygol o fod yn anghyfreithlon ar sawl cyfri,” meddai llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis.

“Yn gyntaf, ni ellid gwneud hyn heb ymgynghoriad statudol llawn gan y byddai cam o’r fath yn newid natur yr ysgol. Pe na bai addysg Gymraeg ar gael yn y chweched dosbarth, byddai disgyblion iau hefyd yn llawer llai tebygol o ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ail, byddai argymhelliad y Cyngor yn terfynu addysg chweched dosbarth Cymraeg yn Llanfyllin er y byddai addysg chweched dosbarth Saesneg yn parhau. Dyna ragfarnu clir yn erbyn disgyblion Cymraeg eu hiaith.”

Mae’n mynd ymlaen i ddweud na fu ymchwil i’r posibiliad o “ddefnyddio technoleg gyfoes i wireddu addysgu aml-safle, sef fod athro mewn un safle yn addysgu’n gyfamserol disgyblion mewn safle arall, ac ni fu trafodaethau traws-sirol gyda Chynghorau fel Gwynedd, Dinbych a Wrecsam yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.”

“Ar yr holl seiliau hyn, byddech yn agored i her gyfreithiol petaech yn penderfynu mabwysiadu argymhelliad i derfynu’n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Llanfyllin,” meddai’r ymgyrchydd.