Mae yna ansicrwydd a fydd etholiadau i’r cyngor sir yn cael eu cynnal ar Ynys Môn y flwyddyn nesaf.

Mae ffynhonnell o fewn y cyngor wedi dweud wrth y BBC ei fod yn debygol iawn na fydd etholiadau yn cael eu cynnal nes 2013.

Ym mis Mawrth eleni galwodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, ar y comisiwn i ystyried lleihau nifer y cynghorwyr a chyflwyno wardiau oedd yn cynnwys mwy nag un cynghorydd.

Dywedodd bryd hynny y byddai angen cyflwyno’r newidiadau cyn yr etholiadau nesaf, ac felly ei fod yn bosib y bydd angen oedi’r etholiadau nes 2013.

Fe fydd Comisiwn Ffiniau Cymru yn cyhoeddi eu cynigion drafft ar newid ffiniau wardiau’r sir yfory.

Bydd ymgynghoriad yn dilyn a does dim disgwyl y bydd gweinidogion yn cael gweld y cynigion terfynol nes mis Mawrth 2012.

Bydd yr etholiadau cyngor yn cael eu cynnal ar 3 Mai 2012.

Fe fydd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, yn penderfynu a fydd yr etholiad yn cael ei gynnal yr un pryd a gweddill Cymru neu’n hwyrach ymlaen.