Tafarn y Tymbl
Mae achubwyr wedi tynnu dyn o Afon Taf ym Mhontypridd.

Roedd y dyn wedi syrthio i mewn i’r afon y tu ôl i Dafarn y Tymbl tua 11.17pm neithiwr.

Mae’n debyg ei fod wedi syrthio tua 30 troedfedd i’r afon. Cafodd ei drin gan barafeyddygon yn y fan a’r lle.

Aethpwyd ag ef i’r ysbyty yn dioddef o anaf i’w gefn.