Nick Clegg
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi dweud fod prosiect ailgylchu yn y Sblot wedi gwneud argraff fawr arno.

Fe fuodd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld â Chaerdydd brynhawn ddoe er mwyn ymweld â phrosiect Cylch.

Mae’r prosiect ailgylchu yn rhoi hyfforddiant  i bobol sydd wedi bod allan o waith am gyfnodau hir.

“Mae beth ydw i wedi ei weld heddiw wedi gwneud argraff fawr arna’i, ac rydw i’n credu fod angen rhagor o brosiectau fel hyn er mwyn helpu pobol ifanc i gael hyd i waith, ac i ddatblygu sgiliau.

“Rydyn ni mewn llywodraeth yn gwneud llawer iawn er mwyn cynyddu nifer y bobol ifanc sy’n ymgymryd â phrentisiaethau.

“Fe fydd yna 250,000 yn fwy o bobol ifanc yn cael y cyfle hwnnw yn ystod y senedd yma nag oedd yn ystod cyfnod Llafur mewn grym.”

Bwlch

Dywedodd Nick Clegg fod arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, yn bod yn “rhy hael” wrth ddweud y dylai Llywodraeth San Steffan ddilyn esiampl Llywodraeth Cymru ar yr economi.

“Ydw i’n credu y dylai San Steffan fod yn dilyn esiampl Llywodraeth Cymru? Ddim o gwbl,” meddai.

“Mae’r bwlch mewn gwariant ar ddisgyblion yng Nghymru a Lloegr yn parhau i ledu. Mae hynny’n staen go iawn ar enw da Llafur.”

‘Penderfyniadau anodd’

Ni fyddai’r glymblaid yn San Steffan yn effeithio ar obeithion y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiadau cyngor y flwyddyn nesaf, meddai Nick Clegg.

“Mae’n rhan fwyaf o bobol wedi deall bod rhaid i ni fynd i’r afael â’r llanast y mae’r Llywodraeth Lafur blaenorol wedi ei adael ar ei ôl,” meddai.