Prifysgol Bangor
Chwys llafur chwarelwyr gogledd Cymru fydd y testun trafod mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yfory i ddathlu canmlwyddiant y prif adeilad yno.

Bydd hefyd yn gyfle i weld dogfennau o Archif y Brifysgol sy’n croniclo ymroddiad y chwarelwyr oedd yn mynd i’w poced eu hunain i dalu am godi’r sefydliad, oherwydd eu cred bod “addysg yn ffordd allan o’r chwarel,” meddai Einion Thomas, Archifydd Prifysgol Bangor.

“Mi ddaru chwarelwyr gogledd Cymru gyfrannu £1,025 i sefydlu’r coleg yn 1884… roedden nhw’n barod i gyfrannu yn ôl eu gallu. Roedden nhw’n credu mewn addysg yn gryf iawn – fod addysg yn ffordd allan o’r chwarel,” meddai.

Mewn llythyr at Gofrestrydd y Brifysgol yn 1883 mae Griffith Roberts, Ysgrifennydd Pwyllgor Casglu Chwarelwyr Penrhyn, yn “dweud y cyfan” yn ôl Einion Thomas:

 

Mae Chwarelwyr Cae Braich-y-Cafn (yr enw cywir ar Chwarel Penrhyn) am ddangos i’r byd fod ganddynt farn a phris mawr i roddi am beth mor uchel ac addysg”

Y Penrhyn (Bethesda), Dinorwig a Blaenau Ffestiniog oedd prif chwareli’r gogledd ond roedd pobol gyffredin o’r tu allan i’r diwydiant yn fodlon cyfrannu hefyd.

“Fel preswylwyr Elusendy Llanuwchllyn, oedd yn cyfrannu hynny gallan nhw – y bobol gyffredin roddodd yr arian i sefydlu’r Brifysgol,” eglura Einion Thomas.

Dywedodd Yr Athro David Roberts, sy’n Gofrestrydd y Brifysgol ac yn un o’r siaradwyr gwadd,  bod y cyswllt rhwng y chwarelwyr llechi a sefydlu’r Brifysgol ym Mangor “yn un o nodweddion gwych ac ysbrydoledig yn hanes y Brifysgol hon”.

Roedd hi’n briodol talu sylw i’r bobol gyffredin  oedd “yn rhoi o’u cyflogau pitw, i gefnogi’r ymgyrch am addysg uwch yng ngogledd Cymru,” meddai.