Mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur weithredu ar frys i adeiladu mwy o dai fforddiadwy, meddai Aelod Cynulliad heddiw.

Daw sylwadau Mark Isherwood AC ar ôl i elusen Shelter  honni fod nifer y rhai sy’n ddigartref wedi cynyddu 300% am fod tai yn cael eu hadfeddiannu.

“Does dim strategaeth gadarn sy’n amlinellu cynlluniau sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu mynd i’r afael a’r sefyllfa,” meddai Mark Isherwood.

Dywedodd mai dim ond 4,500 o dai fforddiadwy gafodd eu hychwanegu yn ystod y Cynulliad diwethaf a bod y Prif Weinidog wedi gwrthod rhoi’r £12 miliwn ychwanegol a dderbyniodd gan Drysorlys Prydain i helpu pobl yn Lloegr, i helpu pobl mewn sefyllfa debyg yng Nghymru.

“Mae sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ddigartref yn Lloegr yn ymwybodol o nifer o fentrau sy’n cael eu gweithredu yn Lloegr – sydd ddim ar gael yma.

“Mae angen i hynny newid os ydan ni am gefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd,” meddai.