Carwyn Jones
Mae Merthyr Tudful wedi derbyn buddsoddiad gwerth £1.3 miliwn er mwyn adfywio’r ardal leol.

Bydd dau brosiect adfywio yn cael eu hariannu gan y buddsoddiad hwn, sy’n gobeithio canolbwyntio ar dwristiaeth treftadaeth a mentrau economaidd.

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd prosiectau ‘Hanes Cyfarthfa’ a ‘Menter Dreftadaeth Pontmorlais’ yn rhannu cyfanswm o £1,301,875 er mwyn adfer adeiladau hanesyddol er mwyn i bobol leol, busnesau ac ymwelwyr eu defnyddio.

Bwriad ‘Hanes Cyfarthfa’ yw ehangu’r gweithgareddau sydd eisoes yn cael eu cynnig ar ystâd Cyfarthfa. Mae’r prosiect yn gobeithio adfer rhai o’r adeiladau a nodweddion gwreiddiol yr ystâd, fel y tŷ iâ a gardd y gegin.

Mae’r prosiect yn gobeithio denu cefnogaeth gan y gymuned leol a gwirfoddolwyr, gan gynnig hyfforddiant a chyfle i ddatblygu sgiliau mewn gwahanol feysydd.

Amcan Menter Dreftadaeth Pontmorlais yw adfer gwedd allanol rhai o adeiladau hynaf yr ardal.

Mae Pontmorlais ei hun yn sefyll yng nghanol tref Merthyr, ac o’i gwmpas mae nifer fawr o adeiladau hanesyddol a diwydiannol sydd wedi dadfeilio dros y blynyddoedd.

Mae’r cynllun i adfer yr adeiladau hyn yn cynnwys ailosod blaen siopau, gosod ffenestri traddodiadol, adfer simneiau gwreiddiol, trwsio’r toeau gyda llechi o Gymru, a gwneud gwaith brics a maen newydd.

Defnyddio’r rhinweddau naturiol

Mae’r Prif Weinidog yn gobeithio y bydd gweddnewid y darn hwn o Ferthyr yn denu mentrau newydd i’r ardal ac yn helpu busnesau presennol trwy ddenu mwy o bobol i’r ardal – gan greu ychydig o hwb economaidd mewn ardal difreintiedig iawn o Gymru, hyd yn oed cyn y dirwasgiad.

“Bydd y prosiectau hyn yn agor y drws i gyfleoedd lawer i’r gymuned a’r economi leol,” meddai Carwyn Jones.

“Gall y rhaglen wirfoddoli yng Nghyfarthfa helpu pobol i gael cyfres ehangach o sgiliau a phrofiad ac ym Mhontmorlais gall safleoedd newydd helpu’r busnesau sydd yno eisoes a denu busnesau newydd i’r ardal.”

Yn ôl y Prif Weinidog, mae angen adeiladu ar y rhinweddau naturiol sydd gan Merthyr er mwyn adfywio’r dref.

“Mae cyfoeth o dreftadaeth ym Merthyr Tudful sy’n diffinio’r ardal hyd heddiw. Mae gwead cymdeithasol cymuned yr hen weithfeydd traddodiadol yn dal yn fyw, ac mae yno lawer iawn o dreftadaeth ddiwydiannol ac adeiladau hanesyddol,” meddai.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n diogelu’r dreftadaeth honno ac yn ei defnyddio fel conglfaen i adfywio’r dref.”