Mae parc antur ym Mhowys wedi derbyn bron i £16,000 o ddirwy ar ôl i swyddogion iechyd ddarganfod wyth o ŵyn oedd wedi eu lladd yn anghyfreithlon yn storfa fwyd y caffi.

Mae Fferm Antur Cantref wedi cael £15,750 o ddirwy, ar ôl i swyddogion iechyd a’r amgylchedd ddarganfod nifer o droseddau yn ymwneud â glendid bwyd a iechyd anifeiliaid.

Roedd perchnogion Caffi y fferm antur wedi ymddangos o flaen  ynadon yn y llys yn Aberhonddi ddydd Mawrth diwethaf, wedi i’r Cyngor Sir benderfynu erlyn y perchnogion.

Fe blediodd Colin Evans yn euog i bum cyhuddiad o dan y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch, yn cynnwys lladd yr wyth oen yn anghyfreithlon, a darparu cig ar gyfer cwsmeriaid yng nghaffi’r fferm.

Fe blediod  Gwen Evans yn euog i ddau gyhuddiad o fethu â chadw cegin y caffi mewn cyflwr glan, ac o fethu â sicrhau bod cyflenwad o ddŵr poeth ar gyfer sinc y gegin.

Clywodd y Llys fod swyddog iechyd amgylcheddol y Cyngor wedi dod o hyd i’r ŵyn oedd wedi eu lladd yn anghyfreithlon wrth cynnal archwiliad glendid arferol ym mis Hydref 2010. Doedd y cig yn dangos dim olion o fod wedi ei archwilio na’i gymeradwyo gan archwiliad iechyd.

Pan holwyd Colin Evans ar y pryd, fe ddywedodd gelwydd am darddiad y cig wrth y swyddog iechyd amgylcheddol – celwydd a ddaeth i’r amlwg wedi i ymchwiliad pellach wrth-brofi alibi Colin Evans.

Wedi hynny fe ddechreuwyd ar ymchwiliad ar y cyd gyda swyddog iechyd anifeiliaid y Cyngor, er mwyn cael gwared ar sgil-gynnyrch yr wyth oen o’r fferm.

Fe blediodd Colin Evans yn euog i bum cyhuddiad o dan y Ddeddf Iechyd Anifeiliaid a’r Gorchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid, a chafodd ddirwy o  £14,900  gan Lys Aberhonddu. Cafodd Gwen Evans, ei wraig, ddirwy o £850 am y troseddau glendid bwyd.

Yn ôl y Cynghorydd Geraint Hopkins, sy’n gyfrifol am Amgylchedd a Rheoliadau’r Cyngor, “dyma un o’r achosion gwaethaf y mae’r Cyngor erioed wedi gorfod delio ag ef.

“Mae’n rhaid i gig sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan y cyhoedd gael ei brosesu gan ladd-dy trwyddedig, er mwyn diogelu lles yr anifail a iechyd y cyhoedd.

“Yn yr achos hwn, mae’r ynadon wedi anfon neges glir iawn i ddweud fod darparu cig sydd wedi ei ladd yn anghyfreithlon i’r cyhoedd yn drosedd difrifol iawn. Mae hyn wedi ei adlewyrchu gan y dirwyon sydd wedi eu gosod.”