Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am ddyn o Gaerdydd sydd ar goll.

Mae Gareth Edward Charles wedi bod ar goll o dŷ perthynas iddo yn Llanrhymni. Fe’i gwelwyd diwethaf ar ddydd Mawrth, 8 Tachwedd, yn ardal Caerffili.

Mae’n 40 oed, ac mae’n cael ei ddisgrifio gan yr heddlu fel person gwyn, main sydd rhwng 5’ 8” a 5’9” troedfedd gyda gwallt brown ysgafn wedi ei siafio. Roedd yn gwisgo hoody du gyda streipiau gwyn ar y llewys,  jîns du ac esgidiau gwaith du. Roedd yn cario bag chwaraeon du a llwyd.

Mae’n dod o Gaerffili  ac mae’r Heddlu yn credu efallai fod rhywun o’r ardal sydd yn ei adnabod yn gwybod lle mae o.