Mae dynes wedi marw neithiwr ar ôl i’r car yr oedd yn teithio ynddo fynd oddi ar y ffordd ar yr A4067 yng Nghwm Tawe.
Galwyd criwiau o Wasanaeth Tân y Canolbarth a Gorllewin Cymru i’r digwyddiad rhwng Godre’r Graig a Phontardawe am 9.35 neithiwr.
Mi roedd tri person arall yn teithio yn y car, ond nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd os ydyn nhw wedi cael eu hanafu.
Mae disgwyl y bydd Heddlu de Cymru yn rhyddhau mwy o wybodaeth am y ddamwain yn ddiweddarach heddiw.