Mae Gŵyl Cerdd Dant 2011 wedi agor ei drysau, ac mae’r cyffro yn amlwg ar wynebau’r cystadleuwyr yn un o brif wyliau Cymru.

Mae’r Ŵyl eleni yn cael ei chynnal ym Mhontyberem, Cwm Gwendraeth, ac mae’n argoeli i fod yn ŵyl lwyddiannus, gyda 36 o gystadleuwyr wedi troi fyny yn y rhagbrawf ar gyfer un o’r cystadlaethau cynnar, yr unawd alaw werin oed cynradd.

Neuadd Pontyberem yw lleoliad yr Ŵyl, a drws nesaf i’r Neuadd mae tŷ sydd â hanes diddorol.

Dyfrig Davies, Uwch Gynhyrchydd rhaglenni S4C o’r Ŵyl eleni, sy’n esbonio, “Mae’r lleoliad yn un berthnasol iawn i’r Ŵyl bwysig hon gan mai yn y tŷ drws nesaf i Neuadd Pontyberem y ganed, a magwyd, Lady Amy Parry Williams, gwraig y bardd mawr T.H.Parry Williams. Mi roedd hi’n gantores gwerin amlwg, ac mi wnaeth hi gyfraniad pwysig hefyd i’n diwylliant gwerin trwy deithio o amgylch y wlad a chofnodi nifer o’n halawon gwerin.”