Yr Ods
Mae un o grwpiau mwyaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dweud eu bod yn siomedig gydag ymateb myfyrwyr Cymraeg i’w gigs diweddar.

Bydd albwm newydd Yr Ods, Troi a Throsi, yn cael ei rhyddhau ddydd Llun nesaf ac mae’r grŵp ar ganol cyfres o gigs i hyrwyddo’r albwm .

Nos Sadwrn roedden nhw’n un o brif grwpiau’r ddawns ryng-golegol flynyddol yn Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth.

Yr wythnos flaenorol  roedd ganddyn nhw gig yn y Dafarn Roegaidd ym Mangor Uchaf, ardal sy’n frith o fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Mae Yr Ods yn agos at frig y sîn gyfoes Gymraeg ar hyn o bryd, a llawer o gyffro am eu halbwm cyntaf, ond siomedig oedd dau o’r aelodau ag ymateb y myfyrwyr Cymraeg i’r gigs ym Mangor ac Aber.

“Dw i erioed wedi bod mewn gig mor llawn ond efo pawb â’u cefnau tuag atom ni,” meddai Griff Lynch, gitarydd Yr Ods, wrth Golwg360 wrth drafod y ddawsn ryng-golegol.

“Roedd o’n brofiad rhyfedd iawn.”

Meddwi’n flaenoriaeth

Mae’r ddawns flynyddol yn cael ei gweld fel un o uchafbwyntiau’r calendr gigs y tu allan i fisoedd yr haf, ond nid y gerddoriaeth ydy’r flaenoriaeth i’r myfyrwyr yn ôl aelod arall o’r grŵp.

“Prif nod y rhyng-gol ydy meddwi,” meddai Rhys Aneurin sy’n mwytho allweddellau  Yr Ods.

“Mae o’n wych i bobl sydd isio gweld y bandiau wrth gwrs, ac mae o’n uchafbwynt mewn ffordd ond fysa’n ddiddorol gweld faint sydd yna am y gerddoriaeth.

“Dw i ddim yn gweld bai ar neb, fel’na mae hi,” ychwanegodd.

Ddim yn fodlon talu

Er bod Yr Ods wedi cael “gig dda” ym Mangor, roedden nhw’n siomedig fod nifer o fyfyrwyr Cymraeg yn gyndyn i dalu i weld band byw.

“Roedd yna tua 60 yn y Greeks ac roedd yna deimlad braf i’r gig – pawb yn eistedd lawr ac yn gwrando…rhyw deimlad Llundeinig,” meddai Griff Lynch.

“Ond dw i’n methu peidio teimlo bach yn siomedig gan fod [tafarn] y Glôb fyny’r ffordd yn llawn o bobol oedd ddim isio talu £5.

“Fedri di ddim beio stiwdants am beidio dod i rywbeth does ganddyn nhw ddim diddordeb ynddo fo. Be sy’n siomedig ydy’r sylweddoliad nad oes gan bobol ddiddordeb.

“Wedi deud hynny, petai’r gig yn llawn o bobol oedd isio meddwi bysa’r awyrgylch wedi bod yn wahanol iawn.”

Cyfrifoldeb

Mae Rhys Aneurin yn cytuno nad oes bai ar ieuenctid Cymru am beidio dod i gigs.

“Dw i’n teimlo’n siomedig, ond fedar bandiau ddim disgwyl i bobol ddod i’w gigs nhw.

“Does dim dyletswydd ar bobol ifanc i ddod i gigs – mae’n siomedig ond does dim allwn ni wneud.”

Ond efallai bod cyfrifoldeb ar bobol eraill yn y sector gerddoriaeth gyfoes i weithredu, meddai.

“Mae’n ddyletswydd ar unrhyw un sy’n gwneud bywoliaeth allan o’r sîn i ffeindio allan pam [nad oes gymaint o ddiddordeb gan bobol ifanc mewn cerddoriaeth Gymraeg].

“Mae angen i sefydliadau sy’n cael nawdd cyhoeddus ddod at wraidd y broblem rhywsut, ac ella fod rôl i’w chwarae gan lywyddion yr undebau Cymraeg o ran deall barn y myfyrwyr hefyd.”

‘Dwi’m yn Angel’ o’r albwm Troi a Throsi
Dwi’m yn angel by label_copa