Kirsty Williams
Mae’r ystadegau diweddaraf gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi datgelu fod cynnydd wedi bod yn nifer y cleifion sydd nawr yn gorfod aros dros 26 wythnos am driniaeth.

Yn ôl ystadegau amseroedd aros Gwasanaeth Diagnostig a Therapi Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a gyhoeddwyd heddiw, mae 8.5% o gleifion yn gorfod aros dros 26 wythnos am driniaeth erbyn hyn, canran sydd wedi cynyddu 0.7% mewn dim ond mis.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol  Cymru, Kirsty Williams, fod y ffigyrau hyn yn “dangos fod y broblem tu hwnt i bob rheolaeth. Hyd yn oed cyn i bwysau ychwanegol y gaeaf ddechrau, mae rhestrau aros yn dal i dyfu mis ar ôl mis, a does dim hanner digon yn cael ei wneud i ddelio â’r sefyllfa.”

Daw’r feirniadaeth er bod y Llywodraeth wedi datgelu gostyngiad yn nifer y bobol oedd yn aros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig erbyn diwedd Medi eleni – ffigwr sydd wedi disgyn o 8,554 i 7,948.

Ond yn ôl Kirsty Williams, mae llawer iawn mwy o broblemau yn wynebu’r gwasanaeth nag sy’n cael eu cynrychioli gan y ffigyrau heddiw.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu her anferthol ar y funud,” meddai Kirsty Williams.

“Fis diwethaf, dangosodd yr ystadegau fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod mewn grym tra bod gostyngiad o 17% yn nifer gwlâu y Gwasanaeth Iechyd ers 2000. Ac ar yr un pryd does dim hanner digon o ddoctoriaid yma,” meddai.

Daw ei sylwadau wrth i’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths annerch cynhadledd flynyddol Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, gan drafod yr angen i gael rheolaeth dynnach ar arian – gan rybuddio byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd Cymru i sicrhau nad ydyn nhw’n gwario mwy o arian nag sydd ganddyn nhw.

Ond roedd gan Kirsty Williams ei rhybudd ei hun i’r Gweinidog Iechyd ar ôl gweld yr ystadegau y bore ’ma: “Nes bod y Llywodraeth yn penderfynu mynd i’r afael â’r materion hyn, fe fyddwn ni’n dal i weld amseru aros a rhestrau aros yn cynyddu.”