Jack Widdowson yn perfformio
Mae dyn 23 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ddawnsiwr bale ym Mae Caerdydd ar 5 Dachwedd yn dal i gael ei holi gan yr heddlu.

Mae dau ddyn arall 42 a 22 oed oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Roedd rhywun wedi ymosod ar Jack Widdowson yng nghanol y ddinas yn oriau mân bore Sadwrn ac mae bellach yn adran ofal dwys Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Fe ddywedodd Heddlu De Cymru fod yr ymosodiad yn “ddychrynllyd” ac mae gan y dawnsiwr ifanc addawol anafiadau drwg i’w wddw.

Roedd Jack Widdowson o Gaerfaddon yn ymweld â’i frawd sy’n fyfyriwr yng Nghaerdydd.

“R’yn ni i gyd wedi ein ffieiddio gan yr ymosodiad direswm, treisgar yma,” meddai ei dad, Dr Julian Widdowson sy’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol.

“Mae Jack yn berson difyr iawn sy’n cael ei garu’n fawr gan bawb sy’n ei adnabod ac yn gweithio gydag e.”