Jack Widdowson yn perfformio
Mae heddlu sy’n ymchwilio i ymosodiad “ddychrynllyd” ar ddawnsiwr bale 19 oed ym Mae Caerdydd wedi arestio dyn 23 oed.

Cafodd y dyn ei arestio yn ardal Y Rhath yng Nghaerdydd ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o ymosod a lladrata.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Jack Widdowson yn oriau mân nos Sadwrn, 5 Tachwedd yn ardal Teras Biwt.

Roedd Jack Widdowson o Gaerfaddon yn ymweld â’i frawd sy’n fyfyriwr yng Nghaerdydd ac mae’n ymddangos bod yr ymosodwr wedi dwyn ei ffôn symudol.

Mae Jack Widdowson yn dal i fod mewn cyflwr difrifol  yn Ysbyty’r Brifysgol, Caerdydd ar ôl cael anafiadau drwg i’w wddf.

Ddoe roedd ei dad wedi apelio am wybodaeth am yr ymosodiad yng nghanol y ddinas. Mae Jack yn ddawnsiwr gyda Bern: Ballett, yn Stadttheater Bern yn Y Swistir.

“R’yn ni i gyd wedi ein ffieiddio gan yr ymosodiad direswm, treisgar yma,” meddai ei dad, Dr Julian Widdowson sy’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol.

“Mae Jack yn berson difyr iawn sy’n cael ei garu’n fawr gan bawb sy’n ei adnabod ac yn gweithio gydag e.”

Mae’r Ditectif Brif Arolygydd Andy Davies wedi diolch i’r cyhoedd a’r cyfryngau am eu help gyda’r ymchwiliad.