Cafodd pump o bobl eu hachub ar ôl tân mewn tŷ yn Sir y Fflint yn ystod oriau mân y bore ma.
Fe ddechreuodd y tân ar lawr isaf y tŷ yn ffordd Bryn Mawr yn Nhreffynnon, a chafodd y gwasanaeth tân eu galw am 3.20am.
Cafodd dau oedolyn 24 a 25 oed eu hachub ynghyd â thri o blant 3 oed, 18 mis oed ac 8 mis oed.
Chafodd neb eu hanafu.