Fe fydd rhagor o ddigwyddiadau tebyg i’r cwymp ar glogwyni ger y Barri a adawodd nifer o garafanau yn gwegian ar ymyl dibyn.

Fe fydd mwy a mwy o bobol yn wynebu colli tir ac eiddo, meddai Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, ac fe fydd rhagor o fywydau mewn peryg.

Fe rybuddiodd y bydd problemau erydu’n bygwth rhagor o lannau môr Cymru a  fydd hi ddim yn bosib ei atal yn llwyr.

Fe ddywedodd John Griffiths wrth y Cynulliad bod rhaid gweithredu i leihau’r effeithiau ac fe fydd Strategaeth newydd yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

‘Rhagor o beryg’

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y byddwn ni’n gweld rhagor o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol, gyda lefelau môr yn codi, rhagor o law trwm a mwy o lifogydd cyson.

“Canlyniadau’r llifogydd yna fydd rhagor o beryg i fywyd, i’r economi a’r amgylchedd. Fe fydd rhagor o erydu ar y glannau, gyda rhagor o gymunedau glan môr yn wynebu colli tir, eiddo ac adnoddau.”

Fe fydd angen cyfuno’r gwaith o amddiffyn y glannau gydag “amrywiaeth o gamau eraill” i amddiffyn cymunedau a’r amgylchedd, meddai.

Ac fe ychwanegodd y bydd angen i unigolion a chymunedau ddeall y bygythiadau sy’n eu hwynebu a beth y gallan nhw’i wneud.