Mae Heddlu’r de yn apelio am dystion ar ôl damwain ffordd angheuol heddiw ar ffordd yr A4064 rhwng Brynmenyn a Llangeinor.

Bu farw gwraig 34 oed, oedd yn byw yn lleol,  ar ôl i’w char BMW gwyrdd fod mewn gwrthdrawiad toc wedi 10am bore ma.

Cafodd dwy ferch 14 oed a 2 oed oedd yn teithio yn y car eu cludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhenybont ar Ogwr.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Dywedodd yr Arolygydd Rob Gwynne-Thomas o Heddlu De Cymru eu bod nhw’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad.

“Roedd y ffordd yn brysur ar y pryd ac fe hoffwn ni siarad â unrhywun oedd wedi gweld y gwrthdrawiad neu oedd wedi stopio i helpu,” meddai.

Roedd y ffordd ar gau am bron i bump awr wrth i’r heddlu archwilio’r safle.

Gall unrhywun sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru yng Ngwaelod y Garth ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.