Dr Hefin Jones
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi Cadeirydd a Deon newydd y coleg heddiw, ynghyd ag aelodaeth eu bwrdd academaidd.

Dr Hefin Jones fydd Cadeirydd cyntaf y Bwrdd Academaidd, ac fe hefyd fydd Deon cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Hefin Jones yn dysgu yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, ac mae hefyd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cenedlaethol.

Ar ôl cyhoeddi ei benodiad heddiw, dywedod Hefin Jones fod ganddo eisoes syniadau ar gyfer datblygu cyfeiriad y Coleg Cenedlaethol.

“Fel Deon cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chadeirydd y Bwrdd Academaidd rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fwrw i’r gwaith o lunio strategaeth academaidd.

“Fe fyddwn ni’n edrych yn benodol ar ddatblygiadau pynciol, cynlluniau staffio, a’r holl faterion eraill sy’n gysylltiedig â gwaith cynllunio academaidd y Coleg.

“Rwy’n teimlo ei fod yn bwysig ein bod yn sicrhau mai academyddion sy’n arwain ar y gwaith cynllunio academaidd ac nid oes unrhyw amheuaeth fod y gwaith hwnnw mewn dwylo diogel wrth edrych ar y sawl sydd wedi’u penodi i’r Bwrdd.”

Y Bwrdd Academaidd

Cyhoeddwyd enwau’r bwrdd academaidd heddiw hefyd, fydd â chyfrifoldeb am greu a gweithredu strategaeth academaidd y Coleg – fydd yn “rhoi sail i benderfyniadau cyllido a chynllunio cwricwlwm y Coleg yn y dyfodol.”

Mae’r Bwrdd Academaidd yn cynnwys cynrychiolwyr uniongyrchol o nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr pynciau neu ddisgyblaethau gwahanol. Bydd y Bwrdd Academaidd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith y myfyrwyr sydd bellach yn aelodau o’r Coleg.

Dywedodd y Deon newydd ei bod hi’n “gyfnod hynod o gyffrous ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac mae gan y Bwrdd Academaidd rhan bwysig iawn i’w chwarae wrth i ni gynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r Bwrdd Academaidd yn cynnwys 12 o aelodau sydd wedi eu henwebu gan y sefydliadau, 12 wedi eu henwebu gan y Coleg Cenedlaethol ei hun, dau o’r sector addysg bellach, a phedwar arall sydd eto i gael eu dewis o blith y myfyrwyr.

Y rhai sydd wedi eu henwebu gan sefydliadau addysg uwch Cymru yw: Phil Ainsworth, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Julie Brake, Prifysgol Glyndŵr, Geraint Cunnick, Prifysgol Casnewydd, Dr Lisa Lewis, Prifysgol Morgannwg, Dr Enlli Thomas, Prifysgol Bangor, Dr Gwenno Ffrancon, Prifysgol Abertawe, Dr Anwen Jones, Prifysgol Aberystwyth, Dr Sian Wyn Siencyn, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Dr Gina Morgan, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, a Dr Gwilym Roberts, Prifysgol Caerdydd. Mae cynrychiolwyr y Brifysgol Agored a Phrifysgol Cymru yn dal heb eu cadarnhau.

Y 12 sydd wedi eu penodi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw: Dr Siwan Davies, Prifysgol Abertawe, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd, Elin Haf Gruffydd Jones, Prifysgol Aberystwyth, Delyth Murphy, Prifysgol Bangor, Dr Carwyn Jones, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Gwilym Dyfri Jones, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Yr Athro Richard Wyn Jones, Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Densil Morgan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Yr Athro Gwynedd Parry, Prifysgol Abertawe, Dr Eleri Pryse, Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Roberts, Prifysgol Bangor, Yr Athro Deri Tomos, Prifysgol Bangor.

Mae ddau aelod o’r sector addysg bellach yw Gwenan Owain, Coleg Glannau Dyfrdwy, a Peter Rees, Coleg Sir Gâr.