Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo’r cynnig i ddarparu 50% o’r cyllid ar gyfer cynllun i greu ysgol newydd 3-19 oed yn Llandysul heddiw.

Mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor yn Aberaeron heddiw, fe bleidleisiodd yr aelodau o blaid cefnogi creu’r ysgol newydd gan gyfrannu 50% o’r gost, yn hytrach na’r 30% gwreiddiol.

Daw’r penderfyniad diweddaraf wedi i’r Cyngor orfod ail-edrych ar y cynllun, sy’n rhan o raglen ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’ Llywodraeth Cymru, ar ôl i’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews gyhoeddi’n gynharach eleni fod y Llywodraeth wedi ail-ystyried eu cynnig gwreiddiol i ariannu 70% o gost yr ysgolion sy’n cael eu cymeradwyo dan y rhaglen.

Cafodd saith aelod o’r cabinet wrando ar farn rhai o aelodau etholedig y Cyngor Llawn, cyn pleidleisio yn unfrydol o blaid cyfrannu’r £6-£7 miliwn ychwanegol sydd ei angen i gyrraedd 50% o’r cyllid.

Mae amcangyfrif o gost creu’r ysgol newydd o gwmpas £32 miliwn ar hyn o bryd, ac mae disgwyl y bydd yn rhaid i’r Cyngor ddefnyddio peth o’u pwerau benthyca i godi’r arian sydd ei angen.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Keith Evans, wrth Golwg 360 fod y penderfyniad yn “gwireddu dyhead y Cyngor i sicrhau fod adnoddau priodol ar gael i roi addysg i blant yn Llandysul.”

Mae’r cynghorydd hefyd yn Llywodraethwr  Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, ac “fel Llywodraethwr, ma’n glir i weld fod diffygion i gael ar y campws presennol, gydag adeiladau sy’n ganrif oed, ac yn anaddas i ddysgu ynddyn nhw. Mae angen dybryd am ysgol newydd,” meddai Keith Evans.

Dyw pawb ddim mor hapus gyda’r penderfyniad, fodd bynnag, gyda Chymdeithas yr Iaith wedi galw am ail-ystyried effaith yr ad-drefniant ar gymunedau, a chynrychiolwyr Grŵp Amddiffyn Ysgolion Cynradd Ardal Llandysul wedi cyfarfod i glywed y drafodaeth yn y siambr heddiw.

Dywedodd Gethin Jones, rhiant yn Ysgol Pontsian ac aelod o Grŵp Amddiffyn Ysgolion Cynradd Ardal Llandysul: “Ffolineb llwyr fydd bwrw ymlaen gyda’r cynllun ysgol 3-19 gan fenthyg miliynau o bunnoedd yn ychwanegol a heb cymryd unrhyw sylw o’r gwrthwynebiad chwyrn sydd wedi dod oddi wrth rhieni a thrigolion lleol.

“Mi fydd yn effeithio’n andwyol ar addysg ein plant ac ar ein cymunedau, tra’n amddifadu ardaloedd eraill o’r sir sydd wedi bod yn gofyn am welliannau i’w hysgolion o unrhyw obaith am gyllid. Mae’r penderfyniad yma ond yn amlygu yr agwedd unllygeidiog mae adran addysg Ceredigion wedi dangos drwy’r broses yma dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Dal yn ôl

Roedd y cais ar gyfer ysgol newydd Llandysul eisoes wedi ei gyflwyno pan ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg fod y Llywodraeth wedi ail-ystyried canran eu cefnogaeth ariannol ym mis Gorffennaf eleni.

Roedd ymgyrchwyr dros yr ysgol newydd wedi disgwyl clywed a fu’r cais yn llwyddiannus erbyn yr haf eleni, ond mae penderfyniad y Llywodraeth wedi dal y cynllun yn ôl.

Ond os yw’r cais yn llwyddiannus, maen nhw’n obeithiol y bydd hi dal yn bosib gweld drysau’r ysgol newydd i 1,800 o blant 3-19 oed, yn agor erbyn 2013/14.

Mae’r cynllun gan Gyngor Sir Ceredigion yn argymell uno Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi ag ysgolion cynradd Aberbanc, Capel Cynon, Coedybryn, Llandysul a Phontsian, gan roi’r cyfan ar un campws yn Llandysul.