Lesley Griffiths
Ni ddylai aelodau o’r teulu gael yr hawl i wrthwynebu rhoi organau eu perthnasau i’w trawsblannu, oni bai fod y berthynas wedi rhoi ei enw ar y gofrestr briodol, yn ôl rhai o gynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Byddai’r ddeddf, sy’n gobeithio bod ar waith erbyn 2015, yn golygu bod angen i bobol  gofrestru os nad ydyn nhw’n dymuno rhoi eu horganau pan maen nhw’n marw.

Os ddaw’r ddeddf i rym, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu system o’r fath.

Mae’r cynllun wedi denu cefnogaeth nifer o sefydliadau iechyd, ond mae arweinwyr eglwysi Cymru wedi mynegi pryder dros y cynlluniau, ac mae nifer o Geidwadwyr hefyd wedi codi cwestiynau.

Y Papur Gwyn

Heddiw fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn yn trafod y cynigion ar sut y byddai’r system newydd yn gweithio.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, mae’n bwysig trafod y mater gan fod diffyg organau a thusw yn achosi marwolaethau diangen a dioddef i bobol yng Nghymru bob blwyddyn.

“Mae nifer o arolygon yn dangos bod y mwyafrif o bobol yn y DU a Chymru yn credu mewn rhoi organau, ond dim ond un ym mhob tri yng Nghymru sydd wedi ymuno â’r gofrestr rhoi organau.

“Llynedd, roedd 67% o’r rhai oedd wedi rhoi organau ddim ar y gofrestr. Rydyn ni, felly, yn credu mewn creu amgylchiadau lle mae rhoi organau yn beth digon arferol, gan olygu bod mwy o organau ar gael.”

Yn ôl ffigyrau swyddogol, mae 300 o bobol yng Nghymru yn disgwyl am drawsblaniad organau.

Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn heddiw yn dweud mai dim ond pobol dros 18 oed, sy’n byw ac yn marw yng Nghymru fydd yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau.

Mae’r cynigion hefyd yn rhoi opsiynau ar sut y byddai dymuniadau pobol yn gallu cael eu cofnodi – gan gynnwys creu un gofrestr ar gyfer pobol sydd yn gwrthwynebu rhoi organau, ac un arall i’r rhai sy’n fodlon; cofrestrau’r ddwy garfan ar un cofnod; neu fod y cofnod yn cael ei gadw gan y meddyg teulu.

Mae gweinidogion wedi galw ar bobol i roi eu hymateb i’r cynigion.

Amheuon

Tra bod nifer o sefydliadau, fel Sefydliad yr Aren Cymru, wedi disgrifio’r Papur Gwyn fel “cam pwysig ymlaen,” mae rhai eraill wedi amau’r cynllun.

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Darren Millar, mae’r cynnig i ragdybio hawl ar organau pobol yn un y dylid cymryd gofal mawr cyn ei dderbyn.

“Mae hwn yn dal yn fater sensitif iawn ac mae hi ond yn iawn fod gymaint o bobol a phosib yn cael rhoi eu barn.

“Bydd yn rhaid i’r holl dystiolaeth gael ei ystyried yn ofalus iawn cyn cymryd y camau nesaf,” meddai.

“O ystyried y materion cydwybodol mawr, a’r cwestiynau cyfreithiol cymhleth, bydd yn rhaid gadael digon o amser er mwyn craffu ar y goblygiadau yn agos, ac edrych yn fanwl ar sut byddai’r system newydd yn gweithio.”

Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, hefyd wedi codi cwestiynau dros y cynigion yn y system newydd, gan bwysleisio y dylai organau gael eu rhoi fel “rhodd” i eraill, ac na ddylid eu trin fel “un o asedau’r wladwriaeth.”

Ond mae Dr Tony Calland, cadeirydd pwyllgor moeseg Cymdeithas Feddygol Prydain, yn credu y byddai “system lle mae’n rhaid i chi nodi gwrthwynebiad i roi organau yn gallu mynd i’r afael â’r prinder o bobol sy’n rhoi organau ac yn gallu arbed bywydau,” meddai.

“Ein gobaith ni yw y bydd symud i system o nodi gwrthwynebiad i roi organau yn newid disgwyliadau diwylliannol mewn cymdeithas, ac yn ysgogi mwy o drafodaeth o fewn teuluoedd ynglyn â rhoi organau.”

Fe fydd yr ymgynghoriad ar gynigion y Papur Gwyn yn cau ar 31 Ionawr 2012.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd mesur ddrafft yn cael ei chyflwyno yn 2012, ac y gallai’r ddeddf fod yn ei lle erbyn 2013 – ac ar waith erbyn 2015.