John Roderick Rees
Bydd y ddwy goron enillwyd gan y diweddar Brifardd John Roderick Rees yn Eisteddfodau Cenedlaethol Llanbedr Pont Steffan 1984 a’r Rhyl 1985, i’w gweld mewn arddangosfa arbennig amdano yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth y mis nesaf.

Cafodd y coronau eu cyflwyno i’r amgueddfa gan Angela Edwards, ffrind John Roderick Rees a fu farw yn 89 oed yn 2009.

Roedd yn byw ym Mhenuwch ger Tregaron ac roedd y bryddest fuddugol yn Llanbed yn sôn am y dirywiad yng nghefn gwlad oherwydd mewnfudo.

Roedd y gerdd fuddugol yn y Rhyl yn deyrnged i’w fam faeth Jane Mary Walters ar ôl iddo golli ei fam ei hun yn ddwyflwydd oed.

Dim ond John Roderick Rees a Bryan Martin Davies (1971 a 1971) sydd wedi ennill dwy goron yn olynol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.