Canolfan y Mileniwm
Bydd cannoedd o gantorion cyffredin yn heidio i Ganolfan y Mileniwm Caerdydd heno i gyd-ganu y Meseia gan Handel a chodi arian at achosion da.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn flynyddol o hyn allan ar ôl i’r cynllun fod yn llwyddiant ysgubol yn y Royal Albert Hall yn Llundain.

Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru ac mae’r trefnwyr yn dweud y bydd yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn canu i ymarfer a pherfformio un o oratorios mwya’r byd.

Cyfansoddwyd y Meseia gan Handel yn 1741.

Rhaid i’r cantorion fod yn gallu dilyn y gerddoriaeth sydd yn gallu bod yn anodd yn ôl y trefnwyr.

“Yr holl syniad ydi bod pobl yn dod at ei gilydd a chael andros o amser da yn canu,” medd Viv Goldberg rheolwr y cynhyrchiad.

Dyma’r tro cyntaf i’r Meseia gael ei berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm ac mae’r arweinydd David Lawrence wrth ei fodd.

“Dwi wedi arwain sawl Meseia fel hyn o’r blaen ond dwi wrth fy modd yn cael arwain y perfformiad anhygoel yma o oratorio gorau Handel yng ngwlad y gân,”

Bydd y gerddorfa a‘r unawdwyr i gyd yn dod o’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.