Alun Davies
Mae Alun Davies o’r Blaid Lafur wrth ei fodd bod grant o dros dri chwarter miliwn wedi ei roi at wella canolfan i bobol ifanc yng Nglyn Ebwy.

Bydd £780,225 yn cael ei wario ar ailwampio canolfan I’r ieuenctid er mwyn cynnal stiwdio ddawns, clwb ieuenctid, safle cynhyrchu cerddoriaeth a chaffi.

Daw’r arian yma o gronfa gwerth £13 miliwn sy’n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Grofna Loteri Fawr, er mwyn  darparu arian I helpu cymunedau I brynu adeiladau a thir sydd yn nwylo’r sector gyhoeddus.

“Rydw I wrth fy modd fod yr Institiwt wedi derbyn nawdd sylweddol I ddarparu cyfleusterau sy’ wir eu hangen ar bobol ifanc Glyn Ebwy a’r cyffiniau,” meddai Alun Davies, Aelod Cynulliad Blaenau Gwent.