Y Senedd a gynlluniwyd gan yr Arglwydd Richard Rogers
Mae mab i bensaer adnabyddus wnaeth gynllunio’r Senedd ym Mae Caerdydd wedi boddi mewn bath tra ar ei wyliau yn yr Eidal, meddai’r Heddlu heddiw.

Roedd Bo Rogers, mab ieuengaf yr Arglwydd Richard Rogers a’i wraig Ruth, yn aros yn  Lido di Camaiore yn Tuscany pan fu farw, meddai heddlu lleol.

Mae’r Heddlu’n credu ei fod wedi marw o achosion naturiol.

Eisoes, mae profion tocsicoleg wedi’u cymryd.