Syr Deian Hopkin
Mae Syr Deian Hopkin wedi cael ei benodi yn olynydd i’r Arglwydd Dafydd Wigley fel Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Wedi pedair blynedd wrth y llyw fe fydd Dafydd Wigley yn ymddeol o’r swydd ar 1 Rhagfyr eleni, gan drosglwyddo’r awenau i un sydd eisoes wedi bod yn gysylltiedig â’r Llyfrgell ers rhai blynyddoedd fel aelod o Lys a Chyngor y Llyfrgell.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, heddiw, gan ddweud ei fod yn credu y byddai “Syr Deian yn cyfrannu profiad helaeth i’r swydd.”

‘Anrhydedd enfawr’

Yn ôl Deian Hopkin, mae “cyfrannu at waith hollbwysig y Llyfrgell Genedlaethol fel ei Llywydd yn anrhydedd enfawr, gan mai hon yw un o’n sefydliadau pwysicaf.

“Rwy’n ddefnyddiwr brwd o’r Llyfrgell ers blynyddoedd lawer ac rwyf wedi bod yn aelod o’i Chyngor, felly rwy’n ymwybodol iawn o’i rôl hollbwysig o fewn bywyd diwylliannol a deallusol Cymru.”

Wrth edrych ymlaen i dywys y Llyfrgell trwy gyfnod o ddatblygiad digidol, gyda’r gobaith y bydd hynny yn gwneud adnoddau’r Llyfrgell yn fwy agored i bobol ar draws y wlad, dywedodd ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr at arwain y Llyfrgell dros y blynyddoedd nesaf.”

Bu Deian Hopkin yn brif weithredwr ac is-ganghellor ar Brifysgol Southbank yn Llundain cyn iddo ymddeol yn 2009, wedi 42 o flynyddoedd ym maes addysg uwch.

Bydd yn dechrau yn y swydd ar 1 Rhagfyr 2011 a bydd yn parhau am bedair blynedd.