Mae busnes Senedd Cymru wedi’i ohirio heddiw (dydd Mercher, Mehefin 17), yn dilyn marwolaeth sydyn Mohammad Asghar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 16), yn dilyn yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel “argyfwng meddygol”.

Bydd Aelodau o’r Senedd yn cyfarfod am 12.30yp i dalu teyrnged iddo, a dim ond y coronafeirws fydd yn cael ei drafod wedyn.

Datganiad

“Yn dilyn marwolaeth trist Mohammad Asghar AS, bydd cyfarfod heddiw yn dechrau yn hwyrach am 12.30,” medd datganiad gan Senedd Cymru.

“Bydd Aelodau yn cwrdd i dalu teyrnged i’w cyfaill – yr unig eitem arall o fusnes fydd y Rheoliadau Coronafeirws.

“Bydd y teyrngedau yn fyw ar Senedd TV neu yma o 12.30.”