Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod y ffin rhwng Cymru a Lloegr “yn teimlo weithiau fel Llen Ddur”.

Daw ei sylwadau mewn blog yn dilyn pryderon am y dulliau amrywiol sydd gan lywodraethau Cymru a San Steffan o fynd i’r afael â chyfyngiadau a gwarchae’r coronafeirws.

“Mae yna wahaniaeth mawr iawn yn y ffordd mae Covid-19 yn cael ei reoli yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr,” meddai ar ddechrau’r blog.

“Mae’n fater o’r syniad o ryddid,” meddai wedyn gan ddweud bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain ac arweinydd y Ceidwadwyr, “yn gwybod yn reddfol fod pobol Prydain yn gwerthfawrogi rhyddid”.

Mae’n dweud nad yw am feirniadu penderfyniadau unrhyw lywodraeth sydd “wedi gweithredu’n ofalus”, ond mae’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o lacio’r cyfyngiadau’n “fwriadol o araf, ac mewn ffordd anarferol o ryfedd ac anwyddonol”.

Ymateb i’r cyfyngiadau yng Nghymru

Wrth gyfeirio’n benodol at y cyfyngiadau diweddaraf yr wythnos ddiwethaf, mae’n dweud bod pobol wedi gallu ymweld â phobol mewn tŷ arall “ond dim ond os yw’r tŷ hwnnw lai na phum milltir i ffwrdd”.

Mae’n disgrifio’r cyfyngiad hwn fel “rheol greulon” sy’n “gwahaniaethu yn erbyn rhai teuluoedd ac nid eraill”.

“Mae hefyd yn cosbi’r rheiny sy’n byw mewn cymunedau gwledig nad yw pum milltir o adref, o reidrwydd, yn mynd â nhw i ffordd ‘A’,” meddai.

“Ond hyd yn oed os ydych chi’n ddigon ffodus i fyw o fewn pum milltir i’ch teulu a’ch ffrindiau, roedd gan arweinydd Llafur Cymru Mark Drakeford rywbeth i’w ddweud am yr hyn y dylech chi ei wneud neu beidio â’i wneud wrth weld pobol nad oeddech chi wedi gallu gweld ers tri mis.

“Fe wnaeth Mr Drakeford hyd yn oed ddweud wrth bobol am beidio â defnyddio’r tŷ bach yng nghartrefi pobol eraill ac i fynd adref os oedd angen.

“Fe wnaeth e hefyd ei dweud hi wrth y cyfryngau Cymreig am “redeg i gartrefi pobol” a “chael cwrw a’r holl beth yn torri i lawr”.

“A dyna ni: dydy Llafur yng Nghymru ddim hyd yn oed eisiau i chi gael diod yn yr ardd gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.”

‘Rheoli Covid-19, nid ffordd o fyw pobol’

Mae’n dweud ymhellach fod Llafur Cymru “wedi anghofio” y nod, sef “rheoli COVID-19, nid ffordd o fyw pobol”.

Ond ar y llaw arall, meddai, mae Llywodraeth Cymru’n “caniatáu rhai gweithgareddau mae’n eu cael yn foesol dderbyniol”, gan gynnwys agor canolfannau garddio a llyfrgelloedd (“cyn Lloegr”).

Ond mae’n dweud nad yw Llafur Cymru’n “parchu cwsmeriaeth” gan nad yw’r siopau ar agor eto.

“Mae’n well cadw siopau ynghau cyhyd â phosib oherwydd gall y Saeson achub economi Cymru yn nes ymlaen,” meddai.

Mae’n dweud ymhellach fod y diwydiant moduro mewn perygl o beidio gallu agor ystafelloedd arddangos ceir, a hynny wrth i “rai hobïau a gweithgareddau gael eu ffafrio ar draul eraill”.

“Os ydych chi’n seiclwr, rydych chi’n parhau i gael triniaeth ragorol gan Lywodraeth Cymru,” meddai, er ei fod yn dweud bod teithiau 40 milltir yn “gam da ymlaen”.

“Mae rheolau’r gwarchae yma yng Nghymru’n eich galluogi chi i seiclo 40 milltir ond ddim i yrru mwy na phum milltir.”

Mae’r Ceidwadwyr hefyd yn awyddus i weld tenis yn dychwelyd – Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop ac eithrio Rwsia lle nad oes modd chwarae, meddai’r blaid.

‘Corbynistiaeth’

Yn ôl Paul Davies, mae’r rheolau’n adlais o “Corbynistiaeth”.

“Yn Lloegr, mae’r Blaid Lafur o’r diwedd wedi dianc rhag crafangau Corbynistiaeth, ond dyw hynny ddim yn wir yng Nghymru,” meddai.

“Y prif weinidog Mark Drakeford oedd y gwleidydd blaenllaw cyntaf yng Nghymru i gefnogi Corbyn i fod yn arweinydd yn 2015.

“Fe wnaeth e sefyll ar gyfer arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru gyda chefnogaeth Llafur ar Lawr Gwlad, sef y criw Momentum yng Nghymru.

“Mor ddiweddar ag ychydig wythnosau’n ôl, fe wnaeth e orchymyn cynrychiolydd Llafur Cymru ar Bwyllgor Gwaith Llafur i gefnogi’r ymgeisydd asgell chwith eithafol dros yr un roedd criw Starmer sydd bellach yn rheoli’r Blaid Lafur yn ei ffafrio.

“Mark Drakeford yw dyn Corbyn yng Nghymru o hyd,” meddai cyn beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fod ag agwedd o nhw “sy’n gwybod orau”.

Mae’n dweud bod penaethiaid y blaid “wedi mwynhau cloi bywydau a rhyddid pobol gormod”.

“Ac aralleirio, o Gei Connah i’r Dyfrdwy, i Gas-gwent ar afon Gwy, weithiau mae’r ffin rhwng Lloegr a Chymru’n teimlo fel Llen Ddur.”