Mae Cyngor Powys wedi pleidleisio o blaid cymeradwyo cais i greu parlwr godro enfawr yn y sir heddiw. Mae’r penderfyniad yn amodol ar adroddiad yn cael ei gyflwyno i fynd i’r afael â rhai materion penodol.

Roedd swyddogion cynllunio yn cyfarfod yn y Trallwng heddiw er mwyn trafod y cais gan y ffermwr lleol, Fraser Jones, i godi system odro ddigonol i gadw 1,000 o wartheg.

Roedd pennaeth y gwasanaethau cynllunio eisoes wedi argymell y dylid gwrthod y cais oherwydd maint y datblygiad, ac roedd nifer o fudiadau cadwriaethol wedi gwrthwynebu – er bod y cynllun diweddaraf, a gafodd ei ail-gyflwyno yn sgil pryderon amgylcheddol cynnar, wedi cael cymeradwyaeth cyrff amgylcheddol erbyn hyn.

Cymeradwyaeth amodol

Fe wnaeth y Cyngor bleidleisio o blaid cymeradwyo’r cynlluniau o chwe phleidlais i bedwar ond mae hynny yn amodol ar adroddiad yn cael ei gyflwyno sy’n mynd i’r afael â rhai materion penodol.

Mae’n debygol y bydd y cais yn cael ei dderbyn yn llawn os yw’r adroddiad yn mynd i’r afael â’r materion dan sylw.

Un o’r cyrff oedd  wedi gwrthwynebu’r cais cynllunio oedd Cadw – gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Yn ôl Cadw, fe fyddai’r datblygiad yn niweidiol i’r “golygfeydd o derasau Gardd Castell Powis a rhannau o’r parc,” ac mae Cyngor Cefngwlad Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi mynegi pryderon tebyg.

Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd, ynghyd â Gwasanaethau Iechyd Amgylcheddol Powys a Gwasanaethau Cefn Gwlad Powys, hefyd wedi cymeradwyo’r cais, ar yr amod bod rhai ystyriaethau amgylcheddol yn cael eu cynnwys yn y cais cynllunio.

Y system odro ym Mhowys fyddai un o’r systemau godro mwyaf  yng Nghymru.