Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau ei bod wedi dechrau rhoi cynlluniau ar waith er mwyn sicrhau gall y brifysgol groesawu myfyrwyr yn ôl i’r campws fis Medi eleni.

Yn gynharach eleni bu rhaid i’r brifysgol drosglwyddo ei holl addysgu ar-lein oherwydd y coronafeirws.

Bwriad Prifysgol Aberystwyth yw ceisio cynnwys cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosib pan fydd yn ail agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.

Yn ôl y Brifysgol, er mwyn gwneud hyn bydd rhaid “addasu’r campws yn ofalus gyda phwyslais ar ddiogelwch.”

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Athro Tim Woods: “Wrth i ni ddod â dysgu yn ôl i’r campws ym mis Medi, ein blaenoriaeth yw sicrhau lles a diogelwch ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.

“Ein nod yw cynnig profiad i fyfyrwyr yn Aberystwyth sydd mor debyg â phosibl i’r profiad ansawdd-uchel rydyn ni bob amser yn anelu at ei gyflawni.

“Mae hynny’n golygu cael y myfyrwyr gyda ni ar gampws sydd wedi ei addasu yn Aberystwyth, gan gynnig cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosibl i’w ddarparu’n ddiogel.

6 cam er mwyn ail agor y campws

Mae’r brifysgol wedi amlinellu 6 cham y bydd rhaid iddynt eu cymryd er mwyn sicrhau bydd modd i’r brifysgol groesawu myfyrwyr fis Medi:

  • Paratoi’r campws ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
  • Creu rhaglen o weithgareddau croeso sy’n parchu rheolau ymbellhau gymdeithasol.
  • Rhoi ffocws ar ddiogelwch myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.
  • Darparu addysgu hyblyg ar y campws, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.
  • Bydd rhaid datblygu mesurau ymbellhau cymdeithasol priodol ar gyfer llety’r brifysgol.
  • Cydweithio gyda’r awdurdodau perthnasol ar y goblygiadau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Cydweithio

Ychwanegodd y dirprwy Is Ganghellor bydd y Brifysgol yn cydweithio a’r Undeb Myfyrwyr, Chyngor Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch staff a myfyrwyr y Brifysgol.

“Bydd yr adborth parhaus gan ein myfyrwyr, ynghyd â phartneriaid eraill, yn hanfodol wrth i ni ddatblygu a bwrw ymlaen gyda’n cynlluniau”, meddai.

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, wedi croesawu’r cynlluniau: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Prifysgol Aberystwyth er mwyn galluogi myfyrwyr i ddychwelyd yn yr hydref.

“Mae’n bwysig i ddyfodol y Brifysgol a’r economi leol ein bod yn gallu cefnogi myfyrwyr i ddychwelyd wrth sicrhau diogelwch y boblogaeth gyfan.

“Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod yr holl gamau diogelwch angenrheidiol yn eu lle cyn i’r myfyrwyr ddychwelyd.”

Ymbellhau cymdeithasol yn Pantycelyn?

Yn ôl y brifysgol bydd llety’r brifysgol hefyd ar gael i fyfyrwyr, ond er mwyn gwneud hyn mae’r brifysgol yn bwriadu rhoi mesurau ymbellhau cymdeithasol priodol ar waith mewn neuaddau preswyl hefyd er mwyn diogelu myfyrwyr.

Ymhlith y neuaddau yma bydd Neuadd Pantycelyn sydd i fod i ailagor ar ei newydd wedd fis Medi.

Mae’r neuadd wedi bod ar gau ers 2015, ac ar ôl buddsoddiad o £16.5m i adnewyddu’r neuadd bydd “neuadd breswyl enwocaf Cymru” â lle i 200 o fyfyrwyr mewn ystafelloedd en-suite.