Dywed yr Aelod Seneddol Hywel Williams nad yw’r dicter cyhoeddus tuag at Dominic Cummings a’r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi diflannu, er gwaethaf ymdrechion y llywodraeth i gladdu’r stori.

Dywedodd Hywel Williams fod ei e-bost yn parhau i fod yn llawn negeseuon gan etholwyr, yn gandryll gydag ymddygiad Dominic Cummings ac ymddygiad anghyfrifol  y Prif Weinidog wrth ei amddiffyn.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, mae mwyafrif yr e-byst yn rhai gan etholwyr sy’n ysgrifennu ato am y tro cyntaf i fynegi eu ffieidd-dra, gyda llawer yn adrodd manylion personol iawn am yr aberth maen nhw wedi ei wneud i gadw at y gyfraith.

Hyd yma meddai, nid yw wedi derbyn yr un e-bost yn amddiffyn Dominic Cummings na’r Prif Weinidog.

‘Testun gwawd’

“Mae’n wythnos bellach ers i Mr Cummings ffugio cyfiawnhau ei ddiystyriaeth llwyr o’r gyfraith” meddai Hywel Williams AS,  “ac mae dicter amlwg ymhlith y cyhoedd yn parhau, ac mae’n gwbl gyfiawn,” meddai.

“Rwy’n parhau i dderbyn llawer iawn o e-byst gan bobl leol sydd wedi’u gwylltio gan ragrith y Prif Weinidog a’i gynghorydd arbennig, yn enwedig gan fy mod yn gwybod am achosion lleol o ddioddefaint go iawn pan fo pobl wedi dilyn y rheolau.’

“Yr hyn sy’n gwneud yr ymddygiad hwn mor wrthun yw’r oblygiadau i bob un ohonom.

“Mae diystyrwch amlwg Mr Cummings o’r rheolau, y bu ef ei hun gyfrifol am lunio, yn destun gwawd o’r aberth personol y mae llawer o fy etholwyr wedi’u gwneud er budd pawb.

“Ond o’r hyn yr wyf yn ei wybod am y Prif Weinidog a’i record, fel newyddiadurwyr a gwleidydd, nid wyf yn synnu ei fod wedi dewis diystyru y sgandal iechyd cyhoeddus hwn trwy osgoi craffu ar bob cyfle.

“Yr hyn a fydd yn drychinebus i’r broses o lywodraethu yw’r ffaith bod cymaint o’r Cabinet, pobl y byddai rhywun yn gobeithio eu bod â barn annibynnol, yn ymddwyn fel pe baen nhw yn meddwl mai eu swyddogaeth yw ategu amddiffyniad Rhif 10 o’r Prif Weinidog a’i gynghorydd air am air.

“Y methiant i gondemnio gweithredoedd Cummings yw’r diweddaraf mewn llu o fethiannau gan Boris Johnson wrth drin yr argyfwng hwn, ac o farnu’r dystiolaeth wrthrychol, nid yw Mr Johnson na llawer o’i ffrindiau yn gymwys i’n harwain allan ohoni.”